Mawredd Mawr 2002

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Tach 2002 9:34 pm

Cytunaf, fy nghefnder pell pell (pell)!


Os gall cefnder arall (pell, pell, pell i ti Dewi, agos, agos, agos i ti Cardi!!) ychwanegu pwynt fan hyn, sef:
Mae yna fai ar y cyfryngau yn sicr, Yn nyddiau fy ieuenctid pell (a tithau Dewi!!) roedd cefnodaeth i'r sin roc Gymraeg i'w gael gan y cyfryngau, roedd rhaglenni megis "Heno Bydd yr Adar yn Canu" yn hybu bandiau ifanc dawnus fel y Groky's ar y dechrau tan eu bod yn enwau cyfarwydd, hefyd roedd slotiau teledu ar gael megis Fideo 9 oedd yn rhyw fath o showcase i fandiau. Ers y newid polisi yn S4C a'r BBC nid yw'r bandiau yn cael cyfle i brofi eu doniau.
Mae S4C a BBC Cymru yn ddigon hapus i llwytho shite allan er mwyn plesio'r hen wrandawyr ffyddlon yn hytrach na cheisio datblygu cynulleidfa ifanc newydd.

Heb gyhoeddusrwydd i'r bandiau yma dyw pobl ifanc ddim yn clywed amdanynt ac felly ddim yn mynd i'r gigs.
Dybiwn i fod y mwyfriaf o ddisgyblion ysgolion Cymraeg fel Maesyryrfa a Bro Myrddin heb glywed am Anweledig ayb. pan oeddwn i'n ddisgybl yn Maesyryrfa ar ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau roedd bysus yn cael eu trefnu i'r gigua yma'n wythnosol. Roedd pawb yn siarad am Datblygu, Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb ag ati oherwydd roeddent wedi eu gweld ar y teledu a/neu eu clywed ar y radio.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Prysor » Sul 10 Tach 2002 8:20 pm

Iesu mae'r byd 'ma'n fach!!! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron