Pam mynd â amryw o gitârs i mewn i'r gawod...

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pam mynd â amryw o gitârs i mewn i'r gawod...

Postiogan Gruff Goch » Mer 21 Mai 2003 11:45 am

...pan fasa un yn gneud y tro!

http://www.podxt.net/store/product.asp? ... 0105&nav=m

Dwi ffansi prynu un o rhain- mi fasa fo yn gneud recordio gitâr yn llawer haws! Dwi'm yn siwr am y craf-blât (scratch-plate?)...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Ffinc Ffloyd » Mer 21 Mai 2003 12:34 pm

Ma' nhw i fod yn reit dda - mae yna rai o'r modelau braidd yn artiffisial o ran y swn, ond mae lot ohonyn nhw'n dda. Y mhroblem i efo fo ydy fyswn i'm yn talu £850 am blanc o Korea sy'n teimlo yr un fath a gitar £200. Fy hun, mi fyswn i'n aros, achos mae hi'n dechnoleg newydd ac mae'r pris yn bownd o ddisgyn, ac mae'n siwr y bydd Line 6 yn uwchraddio'r dechnoleg, a'r gitar hefyd gobeithio.

Dyro Strat i fi unrhyw ddiwrnod - neu Gibson ES335 fel y bydd gen i erbyn mis Medi.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Ramirez » Mer 21 Mai 2003 12:55 pm

ond mae honna'n edrach fel cacs.
ma'n dipresing y bydd hi'n bosib cal unhryw gyfuniad o amp a gitar allan o ddau damaid o offer. i gadw pawb yn hapus fydd raid iddynw neud un o'r gitars variax na mewn siap strat, les paul, flying-v, ibanez jem, 335, telecaster etc. etc.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Gruff Goch » Mer 21 Mai 2003 1:14 pm

Cytuno nad hi yw'r planc prydferthaf, ond mae hi'n cael ei chanmol yn arw yn Sound-on-Sound SOS- dim ond y trainspotters sy'n gallu dweud y gwahaniaeth efo'r rhan fwyaf o'r synnau mae'n debyg. Rho di'r sw^n ar record efo offerynau eraill a bydd neb callach...

Dwi'm am frysio i brynu un chwaith...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Ffinc Ffloyd » Mer 21 Mai 2003 4:09 pm

Y peth arall dwi newydd feddwl - os wyt tin rhoi gitar ar record, dim ond gitaryddion eraill sy'n mynd i wbod be ydi'r gitar yna. A phryd yn union fysa chdi'n iwsio sitar?

Fyswn i'm yn iwsio honna yn fyw chwaith - mi fyswn i'n rhy conffiwsd.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Gruff Goch » Mer 21 Mai 2003 11:20 pm

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Y peth arall dwi newydd feddwl - os wyt tin rhoi gitar ar record, dim ond gitaryddion eraill sy'n mynd i wbod be ydi'r gitar yna. A phryd yn union fysa chdi'n iwsio sitar?

Fyswn i'm yn iwsio honna yn fyw chwaith - mi fyswn i'n rhy conffiwsd.


Ia, ond ma clustiau pobl yn ddigon da i allu adnabod a gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng sw^n gwahanol gitars e.e sw^n Gibson SG a Telecaster (er fasa nhw ddim o reidrwydd yn gallu enwi'r gitars), ond pwynt y Variax ydi na fydd y mwyafrif yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gibson SG iawn a Gibson SG wedi ei fodelu, neu Telecaster iawn a Telecaster wedi ei fodelu.

Mantais arall y Variax ydi nad oes ganddi Pickups cyffredin. Dim pickups, dim interference o monitors PC, sy'n gneud recordio i mewn i gyfrifiadur yn haws.

Biti bod hi'm yn ddelach...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Gruff Goch » Mer 21 Mai 2003 11:21 pm

Scratchplate newydd arni fella?
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai