Tudalen 1 o 20

Ryng gol 2004! y lein up!

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 4:40 pm
gan Rhys Llwyd
RYNG GOL

Drysau yn agor am 8.00

Llwyfan 1
Ashokan
Gilespi
Eryr
Bob

Llwyfan 2
Mattoidz
Kenavo
Pala

A dyma'r poster gwych gan y dylunydd amryddawn Aled Bartholemew!

Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 5:03 pm
gan Cynan Bwyd
:D :D :D :D :D

or diwedd

wha?

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 10:46 pm
gan creithiau
Wha tha fuck is that? Dyma'r line up waetha dwi rioed wedi gweld yn fy mywyd. Am unwaith mae line up Radio Cymru yn Bangor yn edrych yn brilliant in comparison.

Re: wha?

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 10:56 pm
gan Ramirez
creithiau a ddywedodd:Wha tha fuck is that? Dyma'r line up waetha dwi rioed wedi gweld yn fy mywyd. Am unwaith mae line up Radio Cymru yn Bangor yn edrych yn brilliant in comparison.


dyna fo yli. mae genti ddewis. da de.

ie

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 11:00 pm
gan creithiau
The terror of the axis of evil continues

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 11:11 pm
gan Macsen
Fydda i ddim yno, gwaetha'r modd. Mae rygbi tim Cymru yn apelio mwy na Ashokan (dim byd yn ei erbyn nhw, ond dwi'n hoffi rygbi tim Cymru!).

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2004 11:15 pm
gan Rhys Llwyd
Yn draddodiadol defnyddiwyd y Ddawns Ryng Golegol i 'showcaesio' bandaiu newydd oedd yn bodoli yn y colegau.

Braf gweld leni fod y traddodiad wedi ail gydaiad a fod 4 o'r bandiau yn fandiau coleg!

reality

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 11:59 am
gan creithiau
Dwi'n warnio holl stiwdants you're in for a disaster of a night. Tenner i weld y math yma o entertainment? Well gen i roi o i con artist. Ond o leia bydd y noson yma yn reality check i'r holl bands (axis of Evil) Eryr/kenavo/Askokan sydd wedi deludio ei hunain mewn self glory ar Maes e. Faint o gigs mae'r bands ma wedi chwarae trwy'r blwyddyn i haeddu cael lle ar line up Rhyng Gol? As if you havent done 5 gigs between you, blaw Ashokan. O leia fod nhw wedi bod ar y circuit dipyn. Give 'em credit for that. Welais nhw ar Bandit neithiwr, oh dear.............oh dear embarassing

Re: reality

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 12:16 pm
gan Owain
creithiau a ddywedodd:As if you havent done 5 gigs between you, blaw Ashokan.


Dwi'n meddwl bod ti'n gorddeud braidd yn fama met...ma Mattoidz di torri trwodd ers 'steddfod Ty Ddewi ac yn un o fandiau mwyaf poblogaidd a mwyaf prysur y sin ar hyn o bryd. Ma Eryr yn mynd ers rhywbeth fel 6 mlynedd erbyn hyn(dwi'n iawn Ramirez?) ac yn reit brofiadol o ran gigio, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi rhyddhau unrhywbeth. Ma Gilespi ar fynd ers blynyddoedd hefyd ac wastad yn denu, yn enwedig yn Aber. Ma Kenavo yn fand up-and-coming sy'n cael eu canmol lot yn ddiweddar. Mae Bob a Pala wedyn yn fandiau cymharol 'newydd' i agor y noson - be sy'n bod efo hynny? Chwara teg am roi llwyfan iddyn nhw dduda i.

O ran tegwch, dwi'n meddwl fod na cwpl o fandiau mwy profiadol wedi methu gneud y gig hefyd.

Mae o'n lot o waith trefnu gig, yn enwedig un eithaf mawr fel hyn felly dwi'n yn meddwl fod o'n deg i chdi slatio'r lineup. Dwi'n meddwl fydd hi'n noson dda.
8)

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 12:17 pm
gan Dan Dean
Pwy tisho yn rhyng gol felly Creithiau? Bryn Fon? Celt? Anweledig? Bandiau ti di weld 1000 o weithiau o blaen?

Ta waeth, mae hwnna yn lein yp dda iawn. Pob band yn eitha ifanc a eitha newydd a efo dyfodol. Edrych mlaen!