gan finch* » Llun 08 Tach 2004 1:16 pm
Dwi'n credu bo ti wedi neud dy bwynt erbyn hyn arwyn. Wrth gwrs base fe'n wych cal band 'mawr' fel Lo Cut a Sleifar neu Anweledig ond dwi'n credu bod y rhesymau pam nad yw hyn wedi bod yn bosib eleni wedi cael ei esbonio yn barod. Ydw diw'n hoffi Ashokan a Mattoidz ond dwi hefyd yn meddwl mai LoCut a Sleifar yw'r peth gore yn gymraeg ers...bara wedi sleisio a ma Anweledig yn chwedlonol felly ti methu galw fi'n biased.
Ond dwi'n gweld hwn fel y lineup gore posib dan yr amgylchade...a byse ni'n barod i dalu £8 i fynd i weld y gig ma unrhyw noson, rhyng-gol, neu ddim. Os nad wyt ti'n meddwl bod e'n dda, ma gyda ti berffeth hawl i ddweud hynna ond ar ol i'r sefyllfa gael ei hesbonio yn ddigon clir dwi ddim yn credu bod gyta ti le i gwyno. Bring on rhyng-gol!
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?