creithiau a ddywedodd:As if you havent done 5 gigs between you, blaw Ashokan.
Dwi'n meddwl bod ti'n gorddeud braidd yn fama met...ma Mattoidz di torri trwodd ers 'steddfod Ty Ddewi ac yn un o fandiau mwyaf poblogaidd a mwyaf prysur y sin ar hyn o bryd. Ma Eryr yn mynd ers rhywbeth fel 6 mlynedd erbyn hyn(dwi'n iawn Ramirez?) ac yn reit brofiadol o ran gigio, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi rhyddhau unrhywbeth. Ma Gilespi ar fynd ers blynyddoedd hefyd ac wastad yn denu, yn enwedig yn Aber. Ma Kenavo yn fand up-and-coming sy'n cael eu canmol lot yn ddiweddar. Mae Bob a Pala wedyn yn fandiau cymharol 'newydd' i agor y noson - be sy'n bod efo hynny? Chwara teg am roi llwyfan iddyn nhw dduda i.
O ran tegwch, dwi'n meddwl fod na cwpl o fandiau mwy profiadol wedi methu gneud y gig hefyd.
Mae o'n lot o waith trefnu gig, yn enwedig un eithaf mawr fel hyn felly dwi'n yn meddwl fod o'n deg i chdi slatio'r lineup. Dwi'n meddwl fydd hi'n noson dda.