Gwenllian - trefna gig dy hunan - go on, tria. Cofia ddilyn dy bolisiau di - cael bandiau/unigolion wyt ti'n eu hoffi, y rhai mawr/ enwog cofia, dim o'r grwpiau newydd hyn (newydd yn dy farn di, wrth gwrs) s'dim ishe rhoi siawns i'r rheiny nawr os e?
Pobol fel hyn sy'n rhoi'r stigma 'ma ar y Cymry ein bod yn bobol gul, ddi-ddychymyg, ddi-weledigaeth. Sai'n gyfarwydd ag ardal Bangor, (es i i Aber, maddeuwch y gymhariaeth yn dilyn) ond gallaf ddychmygu cymeriad fel 'Gwenllian' yn stiwdent, 3 mlynedd yn neuadd Pantycelyn, Llew Du Bach am ffeddwad a diweddi lan bob nos Fercher yn y Ffwti yn dawnsio i Rachel Stevens neu Abba.