Tudalen 18 o 20

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 11:59 am
gan finch*
benni hyll a ddywedodd:Gen ai glais enfawr ar fy nhroed dde a swollen ankle :ofn:

Dwi'n amau mai dawnsio i Rage Against The Machine yn y Bae ar nos wener sy wrth wraidd y broblem :lol:


:lol:

Ai fi oedd e neu a gafwyd rendition o Mawredd Mawr Eisteddwch i Lawr... yn y Bae nos Wener?

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 12:02 pm
gan benni hyll
finch* a ddywedodd:Ai fi oedd e neu a gafwyd rendition o Mawredd Mawr Eisteddwch i Lawr... yn y Bae nos Wener?


Do, mi nath y DJ roi spin i hwnna - swnio'n wel funky hefyd :lol:

Cerddoriaeth yn wicked yno nos wener, rhaid cyfadde 8)

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 12:49 pm
gan garynysmon
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:Pawb yn chwarae yyn wych a fi yn gneud prat o fy hun, unwaith eto. :lol:

Paid a son. Wnesh i ddisgyn ar fy ngwyneb o leiaf dwywaith yn ur undeb, unwaith yn ystafell y prif lwyfan yn y cefn o flaen pawb. :wps:
Fe wnaeth petha ddechra mynd o'i le ar ol i Spurs ddisgyn i ddarna yn erbyn Arsenal. Dwi'n cofio siarad efo rhai maeswyr, sori os oddwn i'n malu cachu, ond wnaeson ni ddechra yfad am 8 y bora' ar y bws. :?

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 1:26 pm
gan joni
finch* a ddywedodd:Ai fi oedd e neu a gafwyd rendition o Mawredd Mawr Eisteddwch i Lawr... yn y Bae nos Wener?


Ma "Mawredd Mawr" yn regular occurance lawr y bae ar nos wener. Bob tro'n hwyl gweld y di-gymraeg yn dawnsio iddi ac yn mwynhau mas draw er bod 'da nhw'm syniad be sy'n cael ei chwarae!

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 1:32 pm
gan LosinMelysGwyrdd
Mynhau mas draw - diolchiadau mawr i UMCA a'r bandiau am noson anhygoel. Hwn fi'n credu odd y rhyngol cynta' i mi allu fwynhau'r bandiau i gyd - ddim wedi meddwi gormod ac yn yr undeb o'r dechrau. Ble i ddechrau!!!
Pala - not my cup of tea ond yn dda iawn - llais y ferch sy'n canu (sori, wedi anghofio dy enw) yn rili bert, a ma'r drwmiwr mor ifanc. Cadwch ati.
Bob - Tro cynta' i mi weld nhw ac wedi fy mhlesio - pync da.
Eryr - Heb weld Eryr ers i ni chwarae gyda nhw yn Sarn - o ni ddim yn impresed yn Sarn - blown away nos Sadwrn - deit uffernol a tiwns wiked.
Kenavo - band y noson i fi'n bersonol. Sai'n hoff iawn o hip-hop ond mae yna newyd meddwl ambellwaith. Kenavo'n siwperb - llawn egni, llawn dawn, llawn tiwns - da iawn bois.
Gilespi - Fethais i llawer o'r set - ond mwynhau beth welais - chi dal yn fandaliaid!!!!
Hemmaroidz - gwych - roc.roc.roc.
Ashokan - cachu brics cyn mynd arno - ond joies i pob munud ohonno. Diolchiadau i bawb oedd yno ac oedd wedi spario eu hamser prin i wrando arnom - fi'n deall bod chwarae pool yn bwysicach i rhai!
XXX Alun. XXX

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 1:52 pm
gan Dan Dean
Noson dda iawn, y foment orau oedd y gusan hir rhwng Selador a Ramirez ar y llwyfan. Tecsdbwc! :lol:

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 2:19 pm
gan methu meddwl
noson wyyyych, dwin cofior bands on dim y miwsig :? odd gin i atenshyn span fel chwannan tho. arwahan i hynny neshi fwynhau'r bandia so maraid bonwn dda! dwin cal fflashbacs bob hyn a hyn ac yn randomly chwerthin..... ffyn ffyn ffyn!!

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 6:52 pm
gan Cynan Bwyd
Dan Dean a ddywedodd:Noson dda iawn, y foment orau oedd y gusan hir rhwng Selador a Ramirez ar y llwyfan. Tecsdbwc! :lol:


diolch byth nesi methu hwnna :ofn:

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 6:53 pm
gan Ramirez
Cynan Llwyd a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Noson dda iawn, y foment orau oedd y gusan hir rhwng Selador a Ramirez ar y llwyfan. Tecsdbwc! :lol:


diolch byth nesi methu hwnna :ofn:


"lingering" ydi'r gair, dwin meddwl

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 6:58 pm
gan Cynan Bwyd
rhwbeth ir genod 8)