gan LosinMelysGwyrdd » Llun 15 Tach 2004 1:32 pm
Mynhau mas draw - diolchiadau mawr i UMCA a'r bandiau am noson anhygoel. Hwn fi'n credu odd y rhyngol cynta' i mi allu fwynhau'r bandiau i gyd - ddim wedi meddwi gormod ac yn yr undeb o'r dechrau. Ble i ddechrau!!!
Pala - not my cup of tea ond yn dda iawn - llais y ferch sy'n canu (sori, wedi anghofio dy enw) yn rili bert, a ma'r drwmiwr mor ifanc. Cadwch ati.
Bob - Tro cynta' i mi weld nhw ac wedi fy mhlesio - pync da.
Eryr - Heb weld Eryr ers i ni chwarae gyda nhw yn Sarn - o ni ddim yn impresed yn Sarn - blown away nos Sadwrn - deit uffernol a tiwns wiked.
Kenavo - band y noson i fi'n bersonol. Sai'n hoff iawn o hip-hop ond mae yna newyd meddwl ambellwaith. Kenavo'n siwperb - llawn egni, llawn dawn, llawn tiwns - da iawn bois.
Gilespi - Fethais i llawer o'r set - ond mwynhau beth welais - chi dal yn fandaliaid!!!!
Hemmaroidz - gwych - roc.roc.roc.
Ashokan - cachu brics cyn mynd arno - ond joies i pob munud ohonno. Diolchiadau i bawb oedd yno ac oedd wedi spario eu hamser prin i wrando arnom - fi'n deall bod chwarae pool yn bwysicach i rhai!
XXX Alun. XXX
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".