Tudalen 19 o 20

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 7:00 pm
gan Ramirez
Cynan Llwyd a ddywedodd:rhwbeth ir genod 8)


ac ambell ddyn... (heb enwi neb...)

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 10:39 pm
gan Siffrwd Helyg
Noson dda iawn - nes i fwynhau'r bandiau i gyd, er i mi beidio gweld lot o set Kenavo a Gilepsi am ryw reswm anesboniadwy (sori!). Bob yn rili dda, a Pala! gwych! Eryr a Mattoidz yn rooooocio, Ashokan yn ffanblyditastig yn enwedig y diwedd a pawb ar y llwyfan. waw. Felly noson wyyyych, dim byd gwael i ddweud amdano! (dweud rhywbeth am fy nghyflwr meddwol?! falle.) Gyted on ni methu ffindo parti wedyn tho :P

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 11:15 am
gan Creyr y Nos
I'r bobl prin hynny sy'n medru cofio(!) shwd odd set gilespi? Falch clywed bod y noson wedi bod yn llwyddiant. :D

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 1:36 pm
gan Geraint Edwards
Noson reit dda yn y Rhyng-gol' eleni, Gilespi yn chwarae yn dda iawn ynghyd รข'r bandiau eraill (Mattoidz yn enwedig).

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 3:34 pm
gan carwyn
oedd, noson dda. nes i fwynhau pala yn fawr (ond falle bo fi'n ragfarnllyd yn deud hynny). ddim yn cofio lot o neb arall a bod yn onest. ca'l ambell i fflash bac am rai bandie, a jyst cofio diwedd ashokan fel diwedd cyngerdd deri ddathlu pobol y cwm :wps: - pawb yn mynd mlaen ar y llwyfan. 8) :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 3:39 pm
gan Ramirez
wel wir. gobeithio fod y noson wedi bod ddigon da i brofi'r critics yn anghywir.
dwi erioed wedi mwynhau chwarae gymaint a hynna dwi'm yn meddwl.
diolch i'r ddwy minx nath ddangos eu bronnau oedd yn y ffrynt pan oedda ni'n chwarae, a diolch i bawb nath ymuno i weiddi "bambi! bambi!" hefyd.
melys.

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 5:15 pm
gan Dylan
Penwythnos wych. 'Dw i'n meddwl....ddim yn cofio'n dda iawn :?

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 8:02 pm
gan trwyn hir blewog
Angen setlo dadl....ydw i'n iawn yn cofio bod Ashokan wedi neud cover o Ty ar y Mynydd, Maharishi?! Neu ife just can rhwng y band blaenorol a Ashokan odd e?! O ni ddim yn yr ystafell i weld so fi bach yn confiwsed :?

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 8:59 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
roni yn meddwl bod hwna oedd y gig gore i fi fod ynddo a chwarae ynddo erioed, blaw am gig Bad Religion!

Sori dwi yn obsesd efo Bad Religion

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 10:22 pm
gan LosinMelysGwyrdd
Llaw ar fy nghalon, ni gwnaethpwyd cover o Ty ar y mynydd gan Maharishi - what yew sqwaksin' abwt!!!!
XXX Alun XXX