Tudalen 3 o 20

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 1:56 pm
gan garynysmon
Duw, duw. Mae'r Rhyng-Gol, y Rhyng-gol, uffar ots pwy sy'n chwara.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:00 pm
gan arwyn
garynysmon a ddywedodd:Duw, duw. Mae'r Rhyng-Gol, y Rhyng-gol, uffar ots pwy sy'n chwara.



waeth byth ir holl bandie give up ta dydi. yr agwedd yna dir union rheswm pam ddyla na fwy o ofal cael ei cymeryd mewn lein ups.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:03 pm
gan garynysmon
Be dwi'n drio'i ddeud ydi, fydd na lond bysus o Gaerdydd a Bangor yn mynd i Rhyng-Gol Aber, a chael laff, dim ots pwy sy'n chwara. Os fysa John ac Alun a Timothy Evans yn hedleinio, dwi'm yn meddwl fysa neb yn rhy gytud.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:08 pm
gan arwyn
garynysmon a ddywedodd:Be dwi'n drio'i ddeud ydi, fydd na lond bysus o Gaerdydd a Bangor yn mynd i Rhyng-Gol Aber, a chael laff, dim ots pwy sy'n chwara. Os fysa John ac Alun a Timothy Evans yn hedleinio, dwi'm yn meddwl fysa neb yn rhy gytud.


wel mae hynnan drist iawn i weld dydi :( . typical stiwdants cymraeg. jOSGINS

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:11 pm
gan Rhys Llwyd
arwyn a ddywedodd:mae Mattoidz yn iawn ac ashokhan, dwin dallt bod mae nhw di gigon gyson a creu argraff(yn enwedig ashokhan), ond i pobol sydd tu allan ir so called SRG maen edrych braidd rhy matey o lein up. diom yn edrych fel mae na ymdrech i cael unrhyw fand sydd ddim yn eich clic bach maes e.


Felly tin deud mae dim ond bandiau sy'n cael llawer o gigs ddylia gael chwarae mewn events mawr?! Sut ar wyneb dear felly tin digswyl i fandiau newydd fel Kenavo dorri trwyddo a cael gigs? tori yn poppy a cael ein chwarae ar raglen Jonsi? Gadael coleg a gigio llawn amser?

Proffesional or not at all tin ddweud.

A dydy maes-e ddim wedi dylanwadu o gwbl ar y line-up. wn i ddi beth yw'r sail i hynny?! Ok ma aelodau Kenavo, eryr, bob a Pala yn aelodau ar maes-e OND hefyd mae aelodau...
>Pep Le Pew
>Anweledig
>Winibago
>TRB
>Kentyky AFC
>King Bute
>Lo-cut a Sleifar
...ond i enw rhai.

arwyn a ddywedodd:Drumbago, alun tan lan a Pep Le Pew? Estella? Anweledig?


Anweledig wedi cael cynnig ond methu. Estalla wedi headlinio llynedd AC os buasant eisiau run faint o arian a llynedd byddair trefnwyr methu eu fforddio anyway.

Ddim yn gwbod am drumbago, alun na PLP.

Beth am i ti ddanfon e-bost at UMCA? neu ffonio'r swyddfa?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:14 pm
gan Rhys Llwyd
arwyn a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Be dwi'n drio'i ddeud ydi, fydd na lond bysus o Gaerdydd a Bangor yn mynd i Rhyng-Gol Aber, a chael laff, dim ots pwy sy'n chwara. Os fysa John ac Alun a Timothy Evans yn hedleinio, dwi'm yn meddwl fysa neb yn rhy gytud.


wel mae hynnan drist iawn i weld dydi :( . typical stiwdants cymraeg. jOSGINS


dwin cytuno efo ti fama oleia arwyn!

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:18 pm
gan arwyn
Rhys Llwyd a ddywedodd: Felly tin deud mae dim ond bandiau sy'n cael llawer o gigs ddylia gael chwarae mewn events mawr?! Sut ar wyneb dear felly tin digswyl i fandiau newydd fel Kenavo dorri trwyddo a cael gigs? tori yn poppy a cael ein chwarae ar raglen Jonsi? Gadael coleg a gigio llawn amser?


yndi, dwi'n meddwl bod bandie sy'n gweithio'n galed yn haeddu cael gig o flaen rhywun hollol newydd fel Bob. tria weld i nei di.

Rhys Llwyd a ddywedodd:A dydy maes-e ddim wedi dylanwadu o gwbl ar y line-up. wn i ddim beth yw'r sail i hynny?! Ok ma aelodau Kenavo, eryr, bob a Pala yn aelodau ar maes-e OND hefyd mae aelodau...
>Pep Le Pew
>Anweledig
>Winibago
>TRB
>Kentyky AFC
>King Bute
>Lo-cut a Sleifar
...ond i enw rhai.


yndi rhys ond dwi ddim yn gweld aelodau o Pep le Pew, Anweledig, Winibago, trb, Kafc, lo cut a sleifar a King bute yn "Self adverteisio" ei hunain 24 awr y dydd ar maes-e.


waeth byth i chi gael Ian cottrell a Dyl Mei - yr 'arglwydd' yna yn djio i orffan yr cylch clique maes-eaidd.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:25 pm
gan Ramirez
arwyn a ddywedodd:dwin meddwl bod bandie sydd yn gweithion galed yn heuddu cael gig yflaen rhywun hollol newydd fel Bob. tria weld i nei di.


felly ti ddim yn meddwl y dylia bandia newydd gael cynnig gigs
:?: :?: :?: :?: :?:

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:28 pm
gan garynysmon
Ella fod o'n dipyn o newid cael bandia newydd a dweud y gwir. Fel dwi di' drio'i ddweud yn barod, dydi'r Rhyng Gol ddim wir angen 'crowd pullers'.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 2:51 pm
gan branwen llewellyn
blydi hel ma na bobl gwirion yn y byd ma.
dwi'n meddwl fod y line up reit dda. ma pawb yn edrych ymlaen ochr yma i'r byd eniwe, a dwina'n edrych mlaen hefyd.
Gai jest nodi fod Pala ddim yn clic maes-e i ddechra efo'i? di'r ffaith bo ni ar hwn ddim yn golygu bo ni yn y gymuned fach 'ma nachdi?
os ydi bandia ifanc fel bob, eryr a pala yn awyddus i chwara ac yn trio cal gymint o gigs a ma nhw isho, pam bo rhai ohona chi mor negatif am y peth? man stiwpid. grrrrrrr.
tria di weld Arwyn