Tudalen 5 o 20

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 5:54 pm
gan Daffyd
arwyn a ddywedodd:yndi, dwi'n meddwl bod bandie sy'n gweithio'n galed yn haeddu cael gig o flaen rhywun hollol newydd fel Bob.

Ahem.

Da ni yn cael pracdis bob wicend er bod ni gyd yn byw yn uffernnol o bell o'n gilydd, un ym mhrifysgol aber, ru'n ohona ni yn dreifio (eto), gwaith coleg/ysgol i'w wneud, da ni'n hasslo pawb, gnweud yn ymdrechion i borderlinio sbamio maes-e (joc nic, joc), gyna ni'n bywydau cymdeithasol i feddwl am ac hefyd y ffaith fod gyna ni fywyd tu-allan i'r band. Gofynna di i fandiau eraill yr SRG os ma nhw yn rhoi gymaint mewn i fod yn fand a ni. Ddim bod bandiau'r SRG ddim yn rhoi dim fewn ond ma gyna nhw jobs a.y.y.b. ac ma nhw yn llawer mwy proffesiynnol. A tydi rhwyn fel chdi, sy'n deall dim am yr SRG yn amlwg, ddim am ddeall hyn ac ystyried petha felma wrth bostio negeseuon felna. Ddim bo fi'n flin efo chdi am ddweud dy farn gan fod gan pawb berffaith hawl i'w farn', ond meddylia be ti'n ddweud tro nesa dyna oll dwi'n ddeud.

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 5:58 pm
gan Daffyd
[Post dwbl - :wps: ]

na

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 10:05 pm
gan arwyn
lle ma creithiau? tyd, ti di'r unig un sy'n cytuno efo fi. Lle mae di mynd?

Re: na

PostioPostiwyd: Gwe 05 Tach 2004 11:42 pm
gan Daffyd
arwyn a ddywedodd:lle ma creithiau? tyd, ti di'r unig un sy'n cytuno efo fi. Lle mae di mynd?

Ma di cael cick-out dwi'n meddwl. Nid gig arferol yw y Dawns Ryng-Golegol ac nid pa fandiau sy'n chwara sy'n bwysig, felly ni allith 'creithiau' gymharu fo i gig Bryn fon + Anweledig gan mai gig yw honno nid digwyddiad. Nid fod pwy sy'n chwara yn Rhyng-Gol ddim yn bwysig gan nad buasai'n good move gan UMCA i gael John ac Alun i chwara, nafsa? Ond dwi'n gweld be ti'n ddeud. dylai bandiau sy'n sicr o gael gig bob wicend gael gig felma yn lle bandiau newydd ifanc. Hmm, diddorol but yn fy marn i, wrong. Mae Dawns Ryng-Gol yn gyfle i golegau Cymru gael cyfarfod a "make-friends" a.y.y.b., ac i wrando ar gerddoriaeth.

PostioPostiwyd: Sad 06 Tach 2004 6:19 pm
gan methu meddwl
yndi, dwi'n meddwl bod bandie sy'n gweithio'n galed yn haeddu cael gig o flaen rhywun hollol newydd fel Bob. tria weld i nei di.


mana lot o waith yn mynd mewn i wenud band a jysd achos bo chin clwad am y gwaith ma bandia "enwog" (dachin gwbo be dwi feddwl) yn gneud, am i bonwn cal mwy o gigs ne be bynnad,diom yn feddwl bonwn gneu mwy o waith na ma bandiau newydd yn.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 11:10 am
gan Hogyn o Rachub
Duw, fydd pawb 'di meddwi gymaint fydd neb yn cofio'r gig bethbynnag. Amdani, uda i!

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 12:58 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
Chwaer fi newydd ddeud bod na 4 bws llawn o bobl yn dod i fyny o Caerdydd!!!! Felly tua 200 yn dod o CAerdydd. Wyhw.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 1:07 pm
gan Ramirez
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:Chwaer fi newydd ddeud bod na 4 bws llawn o bobl yn dod i fyny o Caerdydd!!!! Felly tua 200 yn dod o CAerdydd. Wyhw.


paid a bod rhy obeithiol, mi fydd pawb yn y pybs tan stop tap.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 1:49 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
nesh i ddim meddwl am hyna, blydi pybs, ddylia nhw cau am yr un tro yma, fel bod pawb yn gwrando ar y bandia newydd/hen wedyn mwy poblogaidd ac cael mwy o gigs/pres/cwrw am ddim!!! nai trio perswadio nhw i fynd i'r undeb.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 6:49 pm
gan Hogyn o Rachub
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:Chwaer fi newydd ddeud bod na 4 bws llawn o bobl yn dod i fyny o Caerdydd!!!! Felly tua 200 yn dod o CAerdydd. Wyhw.


Mae dy chwaer yn gywir, mae 'na bedwar bws yn dod i fyny o Gaerdydd 'ma, a son bod mwy yn dod ar y tren!