gan Meic P » Maw 14 Rhag 2004 12:42 pm
Dyma fy newis i ar rhei o'r catogoriau. Reit anodd ddo dydi, ee Band y Flwyddyn. Di Pep le Pew na Anweledig na Texas Radio Band ddim di neud digon gigs dwi'm yn meddwl, ond ma nhw di rhyddhau CDs da. Ma Kentucky di bod yn brysur iawn dal i fod...pwy arall sy'n y running?
Dwi'n falch bod Frizbee di neud yn dda - dwi'n siwr fydda nhw in the running am ddipyn o wobrau - a ma nhw'n haeddu clod 'fyd am bo nhw di neud pob dim eu hunain. Ma'r caneuon yn ddigon catchy 'fyd, ond dwi'm yn rhy siwr am eu albym chwaith. Swnio'n wag weithia, cynhyrchu brysiog. Ella jyst fi dio, ond dydi'r albym ddim yn un o'r goreuon leni, eto ma nhw di gweithio'n galed leni a neud llwythi o gigs.
Albym Orau - Texas Radio Band
Grwp Ddaeth Fwyaf i Amlygrywdd yn ystod 2004 - Frizbee
Band Byw - Drymbago
Digwyddiad Byw - Miri Madog
Artist Gwrywaidd - Alun Tan Lan
Sesiwn C2 - Sibrydion
Cyfraniad Arbennig i'r Sîn Gerddoriaeth
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr