Ahhh, the good old GCSE days! Reit, dwi wedi cal golwg bach dros llyfre hen fi,
a dwi'n credu mai hyn yw'r ffordd i neud e.
Ma hwn yn case o Trigonometry dwi'n meddwl.
Cwestiwn 1, hyd BE. Nai labeli BE fel 'x' am hyn.
Yn gynta ma rhai labeli'r triongl gyda O,A a H. (Opposite, Adjacent a Hypotenuse).
E.e, Gwelir.
Opposite yw'r ochr gyferbyn ar ongl a ddefnyddir, h.y. 43 yn fan hyn.
Adjacent yw'r ochr ar bwys yr ongl a ddefnyddir.
Hypotenuse yw'r ochr hiraf.
Felly yr Opposite fan hyn yw ochr BE.
Yr Adjacent yw ar y gwaelod, ochr AE.
A'r Hypotenuse yw ochr AB.
Nesa ma rhaid defnyddio 'SOH CAH TOA'.
Y ddau ochr sy'n 'involved' ar dy gwestiwn di yw O a H,
achos rheina yw'r unig wybodaeth am y triongl sydd da ni.
Felly ni'n mynd i ddefnyddio sin ar y calciwladir i weithio pethau allan.
Sin 43 = x/18
Felly 18 x (multiply) sin 43 = 12.2759....
Felly ochr BE yw 12cm mwy neu lai.
Cwestiwn 2, ffeindio ongl CBF.
Reit e, sain rhy siwr o hwn ond rhoiai siot arno fe.
Rhoiai shot arni. Reit, gan fod BE nawr yn 12, ma BF yn mynd i fod yn 6 cm hefyd. (12/2 etc)
Nawr labeli pob ochr gyda O, H a A.
H fydd ochr BC achos hwnna di'r hiraf.
O fydd ochr FC achos ma hwnna gyferbyn a'r ongl ni eisiau dyfalu.
Wel, ti'n gwbod le fydd A yn mynd nawr!
Gan fod ni'n gwbod A ac O ni'n mynd i ddefnddio tan ar y calciwladur oherwydd fod O ac A yn TOA. Felly:
Achos bo ni ddim yn gwbod yr ongl nai ddefnyddio 0 yn lle ni.
Tan 0 = 13/6
13/6 = 2.1666 (round to 2.2)
Tan 0 = 2.2
nawr ma angen neud 'shift' tan ar y calciwladur.
Tan
-1 2.2 = 65.5 (round to 66)
Ongl B = 66
Reit, dwi di treulio bron awr yn helpu ti achos mod i'n bored,
so os ma'r athro yn gweud fod e'n anghywir,
wel tuff tits!