Cylch helpu a gwaith cartref

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 13 Ebr 2005 7:51 am

:D dwi'n meddwl fod y syniad o cylch i helpu fel hyn yn un gwych. Wnes i gwbwlhau fyng ngradd yn 2001 ond dwi dal ddim yn gwybod dim am dim, fellu ella fydda i yn postio rhywbeth o dro i dro.....esboniad syml o structuration theory unrhywun?
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sad 16 Ebr 2005 1:50 pm

Delwedd
Unrhyw help?
dwi di bod wrthi am drost i awr yn edrych arna fo! :crio: :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dai dom da » Sad 16 Ebr 2005 3:26 pm

Ahhh, the good old GCSE days! Reit, dwi wedi cal golwg bach dros llyfre hen fi,
a dwi'n credu mai hyn yw'r ffordd i neud e.

Ma hwn yn case o Trigonometry dwi'n meddwl.

Cwestiwn 1, hyd BE. Nai labeli BE fel 'x' am hyn.

Yn gynta ma rhai labeli'r triongl gyda O,A a H. (Opposite, Adjacent a Hypotenuse).

E.e, Gwelir.

Delwedd

Opposite yw'r ochr gyferbyn ar ongl a ddefnyddir, h.y. 43 yn fan hyn.
Adjacent yw'r ochr ar bwys yr ongl a ddefnyddir.
Hypotenuse yw'r ochr hiraf.

Felly yr Opposite fan hyn yw ochr BE.
Yr Adjacent yw ar y gwaelod, ochr AE.
A'r Hypotenuse yw ochr AB.

Nesa ma rhaid defnyddio 'SOH CAH TOA'.

Delwedd

Y ddau ochr sy'n 'involved' ar dy gwestiwn di yw O a H,
achos rheina yw'r unig wybodaeth am y triongl sydd da ni.
Felly ni'n mynd i ddefnyddio sin ar y calciwladir i weithio pethau allan.

Sin 43 = x/18

Felly 18 x (multiply) sin 43 = 12.2759....

Felly ochr BE yw 12cm mwy neu lai.

Cwestiwn 2, ffeindio ongl CBF.

Reit e, sain rhy siwr o hwn ond rhoiai siot arno fe. :?

Rhoiai shot arni. Reit, gan fod BE nawr yn 12, ma BF yn mynd i fod yn 6 cm hefyd. (12/2 etc)
Nawr labeli pob ochr gyda O, H a A.
H fydd ochr BC achos hwnna di'r hiraf.
O fydd ochr FC achos ma hwnna gyferbyn a'r ongl ni eisiau dyfalu.
Wel, ti'n gwbod le fydd A yn mynd nawr!

Gan fod ni'n gwbod A ac O ni'n mynd i ddefnddio tan ar y calciwladur oherwydd fod O ac A yn TOA. Felly:
Achos bo ni ddim yn gwbod yr ongl nai ddefnyddio 0 yn lle ni.

Tan 0 = 13/6
13/6 = 2.1666 (round to 2.2)
Tan 0 = 2.2

nawr ma angen neud 'shift' tan ar y calciwladur.
Tan -1 2.2 = 65.5 (round to 66)
Ongl B = 66

Reit, dwi di treulio bron awr yn helpu ti achos mod i'n bored,
so os ma'r athro yn gweud fod e'n anghywir,
wel tuff tits! :winc: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Macsen » Sad 16 Ebr 2005 3:39 pm

Tydw i ddim yn gwybod maths. :wps:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwwaters » Sad 16 Ebr 2005 5:16 pm

Dwi di edrych trwy eglurhad Dai Dom Da - dwi'n cytuno efo'r dull ond ddim wedi gwirio'r ateb felly dwi'm yn siwr.

I (a): 18 x Sin 43º

I (b): 13/( (18 x Sin 43º)-6) , wedyn tan -1.

Gwna'n siwr fod ti mewn degrees.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Sul 17 Ebr 2005 11:57 am

cytuno fysa edefyn wedi gallu bod yn ddefnyddiol tua mis yn nol ond wan ma gwaith cwrs i gyd i fewn enwedig un maths a daearyddiaeth, a gwydd y rhai anodd.
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sul 17 Ebr 2005 1:03 pm

Diolch dai, newydd gofio'r hen SoH CaH ToA, edrych yn eitha hawdd wan, diolch!
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dai dom da » Sul 17 Ebr 2005 3:18 pm

Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Diolch dai, newydd gofio'r hen SoH CaH ToA, edrych yn eitha hawdd wan, diolch!


Oh, iawn boi!

Dwi'n eitha siwr fod yr atebion yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Al » Maw 19 Ebr 2005 3:39 pm

mae hwn yn debyg iawn i y forwm yma mi wneshi ddarganfod, gweler :winc: :winc:
Al
 

Nôl

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai