Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Nehsi hwnw flwyddyn dwytha hefyd, ond ma hwn yn cyfri faint o lythrena syna yn the Sun a Guardian!
Ma gyni set o ddata gyda hyd brawddegau The sun a y guardian, dwi wedi gneud y G.S, a A.C ond dwi angen ei roi mewn gwybodaeth yn y "rhagdybiaeth", dwi'm yn shwr iawn sut i'w roi gan ddweud ei bwrpas
diolch
gwion
Hmm wel dwi'm yn arbenigwraig o bell ffordd de. Pwrpas y GS ydi deud wrtha ti faint ma hyd y brawddega yn amrywio o'i gymharu a'r cymedr. Os di'r GS yn isel, ma'r brawddega i gyd tua'r un maint ac os dio'n uchel, ma nhw'n gymysgedd o rai hir a byr. Ma'r AC bron fel ffordd o neud llun o'r GS (os di'r AC ar ffurf diagram gen ti) - mae o'n dangos pa mor "bunched up" ydi'r data o gwmpas y man canol.
Swn i ddisgwyl fod GS yr Haul yn isel achos mae'r brawddega i gyd yn o debyg o ran maint, h.y. "bitesize", un neu ddau gymal. Ma'n bwysig i'r Sun fod y cynnwys yn medru cael ei ddarllen a'i ddallt yn sydyn, heb i'r darllenydd orfod meddwl gormod - mae o'n bapur "sensationalist" ac felly mae o'n symleiddio lot ar betha.
Swn i feddwl fod hyd brawddega'r Guardian yn fwy amrywiol felly mi fydd y G.S. yn fwy. Dydi'r Guardian ddim yn dueddol o fod yn sensationalist felly mi fedar fforddio i ddefnyddio brawddega hir i egluro syniada cymhleth a rhai byr er mwyn bod yn sensationalist pan fo angen. Ma'r Guardian hefyd yn disgwyl i'r darllenydd fod chydig yn fwy amyneddgar a pharod i feddwl chydig am y cynnwys felly dio fawr o otsh os di hyd y brawddega yn amrywiol iawn.
A.C. - mae'n debyg fod gen ti hwn ar ffurff diagram? Os oes, swn i feddwl fod o'n siap U-bedol serth iawn i'r Sun achos fod y rhan fwya o'r brawddega tua'r un hyd ac yn siap mwy gwastad i'r Guardian. Fel dudish i uchod, ma hyn oherwydd fod cynulleidfa y ddau bapur a'u hagwedda tuag at symleiddio'r newyddion.
Heh, nath hynna neud unrhyw sens o gwbl? Go brin fod fy rhagdybiaeth yn iawn yn y lle cynta eniwe