Cylch Newydd: Busneswch!

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Cylch Newydd: Busneswch!

Postiogan Celyn » Llun 11 Ebr 2005 9:23 am

Nodyn sydyn i'ch hysbysu fod Cylch newydd sef Busneswch gan Menter a Busnes sy’n trafod materion yn ymwneud a busnes a’r economi yng Nghymru.

Pwrpas y fforwm trafod yw er mwyn cynnig cyfle i Gymry rannu gwybodaeth defnyddiol, barn a hysbysu eraill o unrhyw ddigwyddiad ym myd busnes yng Nghymru a thu hwnt.

Beth am fentro felly drwy gyfrannu neu gychwyn sgwrs o’r newydd? Beth fyddai yn dy helpu di i sefydlu a rhedeg busnes llwyddiannus? Rho gynnig ar gêm X Ffactor Menter a Busnes er mwyn darganfod beth yw dy X ffactor di ar gyfer y byd busnes! :rolio:

Pa gwmnïau yng Nghymru sy'n gwneud defnydd o'r Gymraeg ac yn haeddu cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad? Mae'r Gwobrau Menter yn cadarnhau fod cyfraniad busnesau siaradwyr Cymraeg i'r economi yng Nghymru yn cael ei amlygu a'i werthfawrogi yn fwy nag erioed. Wyt ti'n adnabod unigolyn neu fusnes sy'n llawn haeddu cael eu enwebu?

Er mwyn Busnesa a cyfrannu i'r pynciau uchod a llawer iawn mwy cer i Cylch Busneswch! http://maes-e.com/viewforum.php?f=61 :lol:


Celyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 05 Mai 2004 12:43 pm

Postiogan Rhys » Llun 11 Ebr 2005 11:10 am

Bydde diddordeb gyda fi mewn ymuno a hwn ond ces i ymateb yn dweud
Dydy'r seiat honno ddim yn bodoli


Dwi'n cymeryd fel pob cylch arall rhaid cael caniatad i ymuno? :)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Llun 11 Ebr 2005 3:20 pm

Oes, <a href="http://maes-e.com/groupcp.php">ymunwch â'r cylch Menter Busnes</a>, wedyn cewch chi fynediad i'r cylch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron