Fel ma SerenSiwenna wedi'i grybwyll yma'n rwla, dwi'n meddwl sa cael cylch i bobol ddeud sdoris yn braf iawn. Dwi'n cofio mynd i wyl Cemaes a gwrando ar sdoriwr wrthi, ag wrth fy modd efo'i sdraeon yn ogysdal a'i ddawn dweud.
Wedi'r cyfan, wrth i bobol adrodd sdraeon au pasio ymlaen o un person i'r llall mae'n cyfoeth o chwedlau ni fel Cymry yn deillio, felly dwi'n credu byddai Cylch o sdraeon yn ffordd ddifyr o dreulio p'nawn diflas a hefyd bydda'r sdraeon ar gael i unryw un rywbryd yn hytrach na dibynnu ar gof!
Dwi'n meddwl y basa 'na le i sdoris sydd yn "bodoli" yn barod yn ogystal a rhai "in-promtw" (?!) Prysor a'i gyfeillion.
Byddai cyfle hefyd felly i drafod y sdoris, a thebgrwydd â sdoriau eraill, yn ogystal a amrywiadau o ardal i ardal!
Rhywun yn cytuno?!