Tudalen 1 o 9

Cylch deud sdorïau

PostioPostiwyd: Gwe 17 Meh 2005 3:58 pm
gan Tegwared ap Seion
Fel ma SerenSiwenna wedi'i grybwyll yma'n rwla, dwi'n meddwl sa cael cylch i bobol ddeud sdoris yn braf iawn. Dwi'n cofio mynd i wyl Cemaes a gwrando ar sdoriwr wrthi, ag wrth fy modd efo'i sdraeon yn ogysdal a'i ddawn dweud.

Wedi'r cyfan, wrth i bobol adrodd sdraeon au pasio ymlaen o un person i'r llall mae'n cyfoeth o chwedlau ni fel Cymry yn deillio, felly dwi'n credu byddai Cylch o sdraeon yn ffordd ddifyr o dreulio p'nawn diflas a hefyd bydda'r sdraeon ar gael i unryw un rywbryd yn hytrach na dibynnu ar gof!

Dwi'n meddwl y basa 'na le i sdoris sydd yn "bodoli" yn barod yn ogystal a rhai "in-promtw" (?!) Prysor a'i gyfeillion.

Byddai cyfle hefyd felly i drafod y sdoris, a thebgrwydd â sdoriau eraill, yn ogystal a amrywiadau o ardal i ardal!

Rhywun yn cytuno?!

PostioPostiwyd: Gwe 17 Meh 2005 4:16 pm
gan prôn pinc
Syniad da! Pawb yn caru 'straen, pa ath o straeon sy'n bodoli? Fel chwedlau ti'n feddwl?

PostioPostiwyd: Gwe 17 Meh 2005 4:26 pm
gan eusebio
Pam na ddefnyddiwch chi http://www.straeon.com ?

PostioPostiwyd: Gwe 17 Meh 2005 4:29 pm
gan prôn pinc
Ooooh oni'm yn gwbo am hwn, diolch!

PostioPostiwyd: Gwe 17 Meh 2005 11:48 pm
gan Tegwared ap Seion
achos dwi'm yn ddalld o :? .....a mae o i weld yn rhy siriys i betha fel sdraeon Prysor ac ati! :D

PostioPostiwyd: Sad 18 Meh 2005 11:56 am
gan Prysor
Un tro roedd cath o'r enw Stanli....

PostioPostiwyd: Sad 18 Meh 2005 1:03 pm
gan Selador
Ella fysa fo'n syniad gofyn i Leusa os gewch chi ddeud sdoris yn y Byd Barddol? Mae'n rhan o'r traddodiad!

PostioPostiwyd: Sad 18 Meh 2005 2:19 pm
gan dawncyfarwydd
Dwi'n credu bod hwn yn syniad eithriadol o dda! Fe allai o weithio fel lle i rannu llên gwerin a chwedlau lleol, neu rywle i gael cynulleidfa i straeon a gwaith creadigol arall - neu'r ddau os yn bosib! Yn anffodus, dydw i ddim yn meddwl bod Straeon wedi gweithio cystal â hynny ond bod posib i'r peth weithio fel rhan o'r maes oherwydd bod pobl yn gyndyn, efallai, o fynd i Straeon yn unswydd.


A dwi'n rhoi caniatâd i chi enwi'r cylch ar fy ôl i :winc:

PostioPostiwyd: Sad 18 Meh 2005 3:42 pm
gan Cawslyd
Cylch Straeon di'r syniad mwya cwl erioed ar y Maes. Mae na edefyn storiol yn y Blwch Tywod yn rwla, fyd.

PostioPostiwyd: Sad 18 Meh 2005 8:10 pm
gan eifs
syniad gwych :D shwd fath o pethau gellir ei roi arno?