Ti'n iawn Al! Chwerthin gymaint o'n i angen tranquilizer eliffant i stopio!
Yr unig wahaniaeth yw fod fy sdori i yn sdori wir(Teg creadur!).
Dial?
Ddus us e local malu cachu ples ffor local malu cachu pipyl, wi'l haf no dial hiyr.
Be ma Teg 'di neud i haeddu hyn?
Son am 'Hell hath no fury', myn diawl.
Paid a poeni Ffinc Ffloyd. Ma Teg a fi'n dalld ein gilydd(gobeithio
). Mae o'n tynnu 'nghoes i'n ddi-baid. Tro dwytha nath o weindio fi fyny nes i luchio potel o ddŵr am ei ben o. Gan nad ydio o fewn tafliad dŵr nac unrhyw beth arall, penderfynais ddial mewn ffordd tipyn bach mwy creadigol y tro hwn! Ti'n meddwl neith o werthfawrogi fo?! O'n i'n rhyw hanner meddwl rhoi'r sdori yn y papur bro.(hihi!)
Daeth Tegi'n ôl i Gymru
A'i dîn o'n dal i grynu.
Llyfu'i glwyfau yn y tŷ,
A dyna fu.
Nes daeth amser tynnu'r pwythau...
Dalia'i drôns yn dyn
Gan sbïo ar ei fam yn syn.
"Chewch chi 'mo 'nghyffwrdd i, ddynas,
'Da chi'n siwr o wneud llanast!
Rhaid i mi gael nyrs go iawn.
Rhaid iddi gael trwydded lawn!"
Anti Sioned tw ddy resciw
(Er ei bod hi braidd yn cwcw).
*
Torchodd hithau'i llewys.
Doedd gan Teg druan ddim dewis
Ond ufuddhau i'r bos,
A hynny yn ddi-os.
Trwy ryfedd wyrth fe lwyddwyd
i dynnu bob pwyth o'i forddwyd.
Er fod yr "ardal" braidd yn goch
Ac erys sws fach ar ei foch.
Tegi, rwyt ti'n wirion,
Ti a'th goesau hirion.
Pwy arall sy'n mynd i Ffrainc
A mynd yn sownd mewn cainc!
*Fo sy'n deud bod Anti Sioned yn cwcw, dim fi!