Gan fod neb yn mynd i fentro deud sdori, mi dduda i un dda wrtha chi am sylfaenydd y cylch sdori ei hun, yr annwyl Degwared ap Seion.
Yn ddiweddar bu Teg
on tour yn Ffrainc yn arddangos ei ddoniau ar hyd a lled y wlad. Bachgen dawnus a'i goesau medrus yn gyrru'r Ffrogis i ffrensi! 'Roedd Teg wedi gwirioni gyda'r fath sylw!
OND...
...un noson, ac yntau'n dawnsio* cystal â John Trafolta ei hun, digwyddodd rhyw anffawd iddo!
Y creadur, disgynodd fel crempog
yn glewt ar y llawr -
wel am gywilydd mawr!
Daeth cymorth i'w helpu ond ni fedrodd r'un dyn (na dynes) ei godi - 'roedd o'n sdyc go iawn.
A Thegi yn rhegi, daeth paramedics i'r sîn
a sylwi bod darn o'r llwyfan yn sownd yn ei dîn!
Bu'r paramedic yn llifio
a Teg bach yn crio
ond diolch i'r drefn am iddyn nhw lwyddo (gael o'n rhydd!)
Ond doedd y dramatics ddim ar ben
gan fod yr hen hogyn â chynffon bren!
Gweddill y sdori i ddilyn.
Gan fod hon yn sdori wir, carwn gydymdeimlo o'r galon gyda Teg a'i ben ôl, gan obeithio y bydd gweddill ei ffrindiau ar y maes yn gwneud yr un modd.
*dawnsio gwerin.