gan Ffinc Ffloyd » Llun 29 Awst 2005 3:32 pm
Dwi 'di rhoi cynnig ar folawd i Teg (dwi'n bord yn gwaith; allwch chi ddeud?) a dyma hi (in 14 searing stanzas!). Ma'r odl yn baglu yn reit hegar weithia, a nonsens ydi y rhan fwya ohoni, ond dwi ddim yn fardd, felly dwi'n gobeithio y ca i faddeuant am hynny.
Ddy Balad of Tegwared Ap Seion
Y mae yn y wlad 'ma ddynion,
cewri mawr ein cenedl ni.
Addfwyn ydynt, doeth a chlyfar -
Arwyr, bob un, mawr eu bri.
Mae enwau'r rhain yn enwog,
cyfarwydd i bob Cymro sydd.
Dafydd Wigley, Dafydd El,
Dafydd Iwan - Ein Harweinydd.
Hywel Gwynfryn, Huw Ceredig,
Idris Charles a Jonsi hefyd.
(Ddowt gen 'i fod o'n wr hyfryd -
liciwn i saethu'r ffwcsyn sbeitlyd)
A debyg fod 'na ambell un
o ferched Cymru'n haeddu clod.
Cans Un-PC fydda moli'r hogia,
heb roi nod i 'run o'r genod.
Felly 'Da Iawn Chi' i Leri Sion,
Gwyneth Glyn a Heledd Cynwal.
Hwdwch botal o Sbarcling Wain
A dysgwch fi sut i wneud cystal. (...a chi)
(Cyn mynd ymhellach, dylid cofnodi
gyfraniad Gwenyn tuag at y parti.
Cantores a bardd sy'n gwneud ati
ag arddeliad i athrodi Tegi)
Erbyn hyn, dwi'n siwr eich bod chi
yn trio dirnad pwynt y gerdd 'ma.
Yn syml iawn, i gysuro Teg,
a'i adfer wedi'i Wenyn-grasfa.
Mae'r bachgen hwn yn arwr hefyd -
deud gwir, mae o bron yn sant.
Fe soniwn am y brawd yn bybyr
wrth ein plant a phlant ein plant.
Cans dewin ydi T ap S,
ysgolhaig sy'n beniog tu hwnt;
derbyniodd ei Lefelau A dan wenu
cyn bygran off i Gaergrawnt.
Mae'n ddawnsiwr medrus hefyd,
yn ddiddanwr o'r iawn ryw;
Mae'n treat i gael ei weld o,
'fo'i pijyn chest a'i goesa dryw.
(Ond gofal piau hi, ddudwn i -
rhaid gwylio wrth enllibio Teg.
Neu mi dderbyniaf glatsien flin
gan yr hybarch fyfyriwr Ffiseg).
Felly henffych well it, T ap S,
dy ddewrder sy'n haeddu bonws.
Am ddawnsio'n gelfydd, dawnsio'n ddel
efo astell yn sownd yn dy dintws.
Mi glywsom ni yr hanes drist
gan gyfaill triw a ffyddlon;
a chydymdeimlo wnawn a'th anffawd cas
a diawlio'r trawst afradlon.
A gobeithio wnawn y byddi'n well
a hynny'n wellhad cyflawn.
Cans trist a fyddai pe byddai'r pren
yn andwyo am byth dy ddawn. (am ddawnsio).
(Hwnna ydi'r diwedd ar y funud, ond mae o angen diweddglo gwell - cynigion?)