Tudalen 6 o 9

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 4:51 pm
gan Al
Gwenyn a ddywedodd:Dim byd yn bod ar gystadleuaeth iach!Doeddwn i ddim yn bwriadu cymeryd dy dyrff di Al!Canlyniad diflastod a dial yn unig yw'r stori hon. Lle mae'ch sdoris chi ta?'Swn i'n licio'u darllen nhw.


http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=12594

:crechwen: :crechwen: :crechwen: :crechwen: :crechwen:


ahahahahhahahahhahaaha, cofio chwerthin pen fi ffwrdd efo rhai o pethau sydd wedi deud yn y edefyn yma

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 11:32 pm
gan Gwenyn
Ti'n iawn Al! Chwerthin gymaint o'n i angen tranquilizer eliffant i stopio! :lol: Yr unig wahaniaeth yw fod fy sdori i yn sdori wir(Teg creadur!).

Dial?

Ddus us e local malu cachu ples ffor local malu cachu pipyl, wi'l haf no dial hiyr.

Be ma Teg 'di neud i haeddu hyn?

Son am 'Hell hath no fury', myn diawl.


Paid a poeni Ffinc Ffloyd. Ma Teg a fi'n dalld ein gilydd(gobeithio :? ). Mae o'n tynnu 'nghoes i'n ddi-baid. Tro dwytha nath o weindio fi fyny nes i luchio potel o ddŵr am ei ben o. Gan nad ydio o fewn tafliad dŵr nac unrhyw beth arall, penderfynais ddial mewn ffordd tipyn bach mwy creadigol y tro hwn! Ti'n meddwl neith o werthfawrogi fo?! O'n i'n rhyw hanner meddwl rhoi'r sdori yn y papur bro.(hihi!)

Daeth Tegi'n ôl i Gymru
A'i dîn o'n dal i grynu.
Llyfu'i glwyfau yn y tŷ,
A dyna fu.
Nes daeth amser tynnu'r pwythau...

Dalia'i drôns yn dyn
Gan sbïo ar ei fam yn syn.
"Chewch chi 'mo 'nghyffwrdd i, ddynas,
'Da chi'n siwr o wneud llanast!
Rhaid i mi gael nyrs go iawn.
Rhaid iddi gael trwydded lawn!"

Anti Sioned tw ddy resciw
(Er ei bod hi braidd yn cwcw). :crechwen: *
Torchodd hithau'i llewys.
Doedd gan Teg druan ddim dewis
Ond ufuddhau i'r bos,
A hynny yn ddi-os.

Trwy ryfedd wyrth fe lwyddwyd
i dynnu bob pwyth o'i forddwyd.
Er fod yr "ardal" braidd yn goch :wps:
Ac erys sws fach ar ei foch.

Tegi, rwyt ti'n wirion,
Ti a'th goesau hirion.
Pwy arall sy'n mynd i Ffrainc
A mynd yn sownd mewn cainc!

*Fo sy'n deud bod Anti Sioned yn cwcw, dim fi!

Dial?!

PostioPostiwyd: Sad 27 Awst 2005 11:02 pm
gan Loisan
Wrth gwrs ma gan Tegid fy holl gydymdeimlad yn y tro trwstan yma! Er hyn, dwi'n sicr na nid dyma y tro ola neith o gael fewn i drwbwl!!
Oedd na rheswm penodl Gwenyn pam fod angen dial ar y creadur anffodus yma? :winc:
Rhywbeth sa tn hoffi ei rhannu?

Re: Dial?!

PostioPostiwyd: Sul 28 Awst 2005 1:38 pm
gan Ffinc Ffloyd
Loisan a ddywedodd:Oedd na rheswm penodol Gwenyn pam fod angen dial ar y creadur anffodus yma? :winc:
Rhywbeth sa ti'n hoffi ei rhannu?


Ia, deud. Dwinna isio gwbod faint o biwsio mae o'n gymryd i ysgogi epic pisstake gen ti. :crechwen:

PostioPostiwyd: Sul 28 Awst 2005 1:59 pm
gan Sali Sws
hahaha ma hwna'n brilliant Gwenyn, gen ti dalent!! Oes sequel yn mynd fod?? Efallai gan Tegwared ap Seion ei hun?? :)

Re: Dial?!

PostioPostiwyd: Sul 28 Awst 2005 10:33 pm
gan Gwenyn
Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Ia, deud. Dwinna isio gwbod faint o biwsio mae o'n gymryd i ysgogi epic pisstake gen ti. :crechwen:


Nodyn o gyngor Ffinc Ffloyd, paid a pwsho fi owfyr ddi ej, neu mi gei di brofi drosot dy hun lid fy nhymer! Uts bitwîn mi and Tegyrs. Ond dwi'n cymryd fod o di madda i mi chos ges i wahoddiad i'w farbiciw o heno! Neshi'm mynd chwaith - wps!
Loisan a ddywedodd:... y creadur anffodus yma? :winc:


Dwi'n cytuno Loisan, mae o'n anffodus! A deud y gwir dwi'n teimlo braidd yn gas am wneud hwyl am ei ben o. Allith o'm helpu bod fel mae o! Lyf hum! Dwi 'di cal syniad, beth am gychwyn cerdd o foliant iddo fo? 'Sa ti'n licio helpu Loisan? Yddyr contribiwtyrs welcym! Hynny yw, os nad ydi Teg isho dechra rwbath ei hun, fel yr awgrymodd Sali Sws, gan na fo ddechreuodd y cylch 'ma (er, dwi'm yn swir iawn os 'di hyna'n syniad da, rhag ofn i mi fod yn bwnc ei wawd! :( )

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2005 12:42 am
gan Tegwared ap Seion
sglyfs.

[gol. dwi'm yn licio rhegi!]

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2005 3:32 pm
gan Ffinc Ffloyd
Dwi 'di rhoi cynnig ar folawd i Teg (dwi'n bord yn gwaith; allwch chi ddeud?) a dyma hi (in 14 searing stanzas!). Ma'r odl yn baglu yn reit hegar weithia, a nonsens ydi y rhan fwya ohoni, ond dwi ddim yn fardd, felly dwi'n gobeithio y ca i faddeuant am hynny.

Ddy Balad of Tegwared Ap Seion

Y mae yn y wlad 'ma ddynion,
cewri mawr ein cenedl ni.
Addfwyn ydynt, doeth a chlyfar -
Arwyr, bob un, mawr eu bri.

Mae enwau'r rhain yn enwog,
cyfarwydd i bob Cymro sydd.
Dafydd Wigley, Dafydd El,
Dafydd Iwan - Ein Harweinydd.

Hywel Gwynfryn, Huw Ceredig,
Idris Charles a Jonsi hefyd.
(Ddowt gen 'i fod o'n wr hyfryd -
liciwn i saethu'r ffwcsyn sbeitlyd)

A debyg fod 'na ambell un
o ferched Cymru'n haeddu clod.
Cans Un-PC fydda moli'r hogia,
heb roi nod i 'run o'r genod.

Felly 'Da Iawn Chi' i Leri Sion,
Gwyneth Glyn a Heledd Cynwal.
Hwdwch botal o Sbarcling Wain
A dysgwch fi sut i wneud cystal. (...a chi)

(Cyn mynd ymhellach, dylid cofnodi
gyfraniad Gwenyn tuag at y parti.
Cantores a bardd sy'n gwneud ati
ag arddeliad i athrodi Tegi)

Erbyn hyn, dwi'n siwr eich bod chi
yn trio dirnad pwynt y gerdd 'ma.
Yn syml iawn, i gysuro Teg,
a'i adfer wedi'i Wenyn-grasfa.

Mae'r bachgen hwn yn arwr hefyd -
deud gwir, mae o bron yn sant.
Fe soniwn am y brawd yn bybyr
wrth ein plant a phlant ein plant.

Cans dewin ydi T ap S,
ysgolhaig sy'n beniog tu hwnt;
derbyniodd ei Lefelau A dan wenu
cyn bygran off i Gaergrawnt.

Mae'n ddawnsiwr medrus hefyd,
yn ddiddanwr o'r iawn ryw;
Mae'n treat i gael ei weld o,
'fo'i pijyn chest a'i goesa dryw.

(Ond gofal piau hi, ddudwn i -
rhaid gwylio wrth enllibio Teg.
Neu mi dderbyniaf glatsien flin
gan yr hybarch fyfyriwr Ffiseg).

Felly henffych well it, T ap S,
dy ddewrder sy'n haeddu bonws.
Am ddawnsio'n gelfydd, dawnsio'n ddel
efo astell yn sownd yn dy dintws.

Mi glywsom ni yr hanes drist
gan gyfaill triw a ffyddlon;
a chydymdeimlo wnawn a'th anffawd cas
a diawlio'r trawst afradlon.

A gobeithio wnawn y byddi'n well
a hynny'n wellhad cyflawn.
Cans trist a fyddai pe byddai'r pren
yn andwyo am byth dy ddawn. (am ddawnsio).

(Hwnna ydi'r diwedd ar y funud, ond mae o angen diweddglo gwell - cynigion?)

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2005 10:12 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
Allai jyst nodi fod Teg di gwneud i un o' dawnswyr feichio crio pan glywodd hi'r newyddion am yr anffawd.

Pob cydymdeimlad Teg - fel udodd rhywun fydda nhw'n galw chdi'n Teg Marshmalow wan!!!! :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

(Ai dim ond fi sy'n gweld hyna'n ffyni??!!!!!!) :lol: :lol: :lol: :lol: :winc:

(Sori boi!!)

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2005 10:03 pm
gan Loisan
Tra mae dy gerdd yn haeddu pob clod Ffinc rwyt wedi anghofio son am rhywbeth hynod bwysig i'r hen Teg. Ei obsesiwn, yn enwedig pan yn feddw efo "BIRDS" a dim y rhai efo adenydd sy'n canu di rheina! :?
Rwyf yn credu'n gryf y dylet ychwanegu bennill arall sydd yn camol Teg a'i allu efo merched!!
Efallai fyddai Gwenyn yn gallu dy helpu di yn y mater hwn? Neu, wrth gwrs, Teg ei hun?!
Edrych ymlaen yn fawr iawn i'r campwaith yma!