Cylch y gofod!

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Postiogan huwwaters » Sad 30 Gor 2005 4:44 pm

Ma nhw di cychwyn adeiladu Nuclear Fusion reactior yn Ffrainc.Ma nhw'n disgwyl y bydd o mewn defnydd llawn ymhen pum mlynedd. Prosiect ar y cyd ydyw, o'r byd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 04 Awst 2005 10:25 pm

Cwestiwn cyflym wnes i ofyn i fy hyn :

Sut fath o fywyd byddem yn cael os busai'r byd yr un faint a'r planed Jupiter ?

Mae'r cwestiwn wedi bygio fi am ddiwrnodau.....
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dafydd » Iau 04 Awst 2005 10:46 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Sut fath o fywyd byddem yn cael os busai'r byd yr un faint a'r planed Jupiter ?

Bywyd fflat iawn. Mae Iau yn gawr nwy a does dim gwyneb soled. Mae'r disgyrchiant ar y 'wyneb' fwy na ddwywaith yn fwy nag ar y ddaear gyda'r nwy yn unig, ond os oedd y blaned yn soled drwyddo mi fase'r disgyrchiant filoedd o weithiau'n uwch. Felly mae'n anhebyg y fase unrhyw fywyd yn cychwyn o gwbl dwi'n meddwl. Mae'n anodd os nad yn amhosib i planedau creigiog ffurfio mor fawr (mi fyddai'r haul yn tynnu'n gryf ar sffer mor fawr yn un peth).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sad 06 Awst 2005 10:26 am

huwwaters a ddywedodd:Dark matter. Dwnim.


Dark Matter? Be ydi o ydi llwyth o ronynnau sy ddim yn medru cael eu canfod o'r ymbelydredd y maent yn ei allyru, ond da ni'n medru gweld fod y fath beth yn bodoli oherwydd da ni'n gweld effeithiau disgyrchol ar fater yr ydym yn medru ei weld megis ser a galaethau. Dydi "dark matter" ddim yn oleuol. Mae bodolaeth "dark matter" yn datrys nifer o anghysondebau yn theori y glec fawr. Mae lle i gredu fod mas tua 90% o'r bydysawd yn "dark matter".

Seiat gofod yn un ddiddorol dwi'n siwr. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Nôl

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron