gan darwin » Gwe 04 Medi 2009 3:51 pm
Helo
Rwy mewn trafodaeth gyda'n gwasanaeth llyfrgell leol. Ar wefan y Sir, fe es i chwilio am luniau o Bantybrad. Pantybrad yw'r lle y pobl leol yn credu i Edward yr Ail gael ei ddal, cyn ei gymryd i Gastell Berkley a'i ladd (gyda phocer twym wedi ei stwffio lan ei ben-ol, fel datganiad am y ffaith ei fod yn ddyn hoyw, mae'n debyg).
Ar wefan y Sir, wrth lun o Bantybrad roedd y geiriau yma: 'Pantybrad, believed to be the place where the First prince of Wales was ambushed.'
Rwy wedi cwyno na allai Edward yr Ail fod yn First Prince of Wales - achos roedd y Llyw Olaf rownd cyn Edward ii, ac ef oedd y 'last prince of wales'.
Mae'r gwasanaeth llyfrgell felly wedi cynnig y canlynol: "I have therefore altered the details to reflect the fact that Edward II was the first of the current line of Princes of Wales"
Oes 'na hanesydd hanner call allan ar faes e a all ddweud wrtha i os ydy hyn yn adlewyrchiad mwy cywir na'r datganiad 'first prince of Wales' gwreiddiol?
Diolch
Darwin