Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 10:29 am
gan Iesu Nicky Grist
Prysor a ddywedodd:Dwn im be di hanes GT,


Pwnc cynta'r cylch hanes!

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 2:36 pm
gan Prysor
Shit, sori, dydan ni ddim yn y cylch hanes nacdan? Yn y Gymdeithas hanes ydan ni'n de? (Fock off! This is the Judean People's Front!!!)

Hanes GT, Iesu? Wel, fe'i ganwyd yn Moroco yn 1807, yn fab i afr a camel...

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 3:30 pm
gan Iesu Nicky Grist
Prysor a ddywedodd:Shit, sori, dydan ni ddim yn y cylch hanes nacdan? Yn y Gymdeithas hanes ydan ni'n de? (Fock off! This is the Judean People's Front!!!)


:lol: Sori!

Prysor a ddywedodd:Hanes GT, Iesu? Wel, fe'i ganwyd yn Moroco yn 1807, yn fab i afr a camel...


...ac fe'i bedyddiwyd fel GOODYEAR TIRE.

:ofn: http://gtworld.org/ :ofn:

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 7:07 pm
gan Prysor
a mi oedd hi'n good year for tyres hefyd achos oedd y camals ar streic

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 6:07 pm
gan Tegwared ap Seion
Yn gweld y maes yn ddistaw heddiw? Wel os ydach chi yna'n amlwg dydych chi ddim yn aelod o Gymdeithas Hanes y maes - mae hi ar d

Hanes Cymru: Pwy oedd Tywysog Cyntaf Cymru?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 3:51 pm
gan darwin
Helo

Rwy mewn trafodaeth gyda'n gwasanaeth llyfrgell leol. Ar wefan y Sir, fe es i chwilio am luniau o Bantybrad. Pantybrad yw'r lle y pobl leol yn credu i Edward yr Ail gael ei ddal, cyn ei gymryd i Gastell Berkley a'i ladd (gyda phocer twym wedi ei stwffio lan ei ben-ol, fel datganiad am y ffaith ei fod yn ddyn hoyw, mae'n debyg).

Ar wefan y Sir, wrth lun o Bantybrad roedd y geiriau yma: 'Pantybrad, believed to be the place where the First prince of Wales was ambushed.'

Rwy wedi cwyno na allai Edward yr Ail fod yn First Prince of Wales - achos roedd y Llyw Olaf rownd cyn Edward ii, ac ef oedd y 'last prince of wales'.

Mae'r gwasanaeth llyfrgell felly wedi cynnig y canlynol: "I have therefore altered the details to reflect the fact that Edward II was the first of the current line of Princes of Wales"

Oes 'na hanesydd hanner call allan ar faes e a all ddweud wrtha i os ydy hyn yn adlewyrchiad mwy cywir na'r datganiad 'first prince of Wales' gwreiddiol?

Diolch

Darwin

Re: Cymdeithas Hanes

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 4:29 pm
gan Prysor
Tywysog cyntaf Cymru oedd Owain Gwynedd. Cyn hynny, brenhinoedd oeddynt.

Edward II oedd y tywysog Seisnig cyntaf. Dylai'r geiriad ddweud rhywbeth fel 'first non-native line' neu 'first English' neu rwbath tebyg. Mae 'first of the current line' ychydig yn gamarweiniol ddwedwn i.

Mewn seremoni sbloets i ddathlu ei goncwest o Gymru, 'cyflwynodd' Edward I ei fab i'r Cymry fel 'eu tywysog' newydd. Byth ers hynny mae'r cyntaf anedig brenin/es Lloegr yn cael ei osod fel 'tywysog Cymru'.