Tudalen 1 o 2

Cylch Mytholeg

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 3:29 pm
gan Macsen
Cylch i drafod mytholeg Cymru a gwledydd eraill. Unrhyw arall am dipyn o Meirion Wyllt, Cernunnos, Thor, Anubis a Bobbi-bobbi?

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 3:33 pm
gan Tegwared ap Seion
Oes plis! :D

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 5:50 pm
gan Al
Fyse hwn ddim yn disgyn o dan y cylch Hanes?

Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto :rolio: :winc:

Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly :wps:

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 6:41 pm
gan Macsen
Cylch hanes? Dim hanes yw mytholeg, ond ail-ddychmygiad mwy diddorol ohono.

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 7:35 pm
gan Aranwr
Bydden i'n ymuno - falle se fe'n helpu fi da un o'n modyle fi yn coleg! :D

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 11:18 pm
gan Al
Macsen a ddywedodd:Cylch hanes? Dim hanes yw mytholeg, ond ail-ddychmygiad mwy diddorol ohono.


San neis gallu trafod am y Mabinoigi :D

deud gwir, 'gaw ni un syr? :crio: '

Re: Cylch Mytholeg

PostioPostiwyd: Sul 19 Chw 2006 11:24 pm
gan Gwen
Macsen a ddywedodd:Unrhyw arall am dipyn o Meirion Wyllt...


Pwy oedd Meirion Wyllt, Macsen? Ai Meirion, wyr Cunedda?

Re: Cylch Mytholeg

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 1:53 pm
gan Macsen
Gwen a ddywedodd:Pwy oedd Meirion Wyllt, Macsen? Ai Meirion, wyr Cunedda?


Petai Cylch Mytholeg mi fyddi di'n cael dy ateb! ;)

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 2:03 pm
gan Geraint
Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto :rolio: :winc:

Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly :wps:


Socia nhw mewn coca-cola dros nos :D

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 2:10 pm
gan sian
Geraint a ddywedodd:
Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto :rolio: :winc:

Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly :wps:


Socia nhw mewn coca-cola dros nos :D


a dyna i chi'r cylch byrraf erioed :lol: