Tudalen 2 o 2
Re: Cylch Mytholeg
Postiwyd:
Llun 20 Chw 2006 2:29 pm
gan Gwen
Macsen a ddywedodd:Gwen a ddywedodd:Pwy oedd Meirion Wyllt, Macsen? Ai Meirion, wyr Cunedda?
Petai Cylch Mytholeg mi fyddi di'n cael dy ateb!
Ond... ond...
O ran diddordeb... Meddwl tybed ydi o rywsut yn gysylltiedig
Postiwyd:
Llun 20 Chw 2006 7:33 pm
gan Tegwared ap Seion
sian a ddywedodd:Geraint a ddywedodd:Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto
Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly
Socia nhw mewn coca-cola dros nos
a dyna i chi'r cylch byrraf erioed
www dwnim, sa chdi'n medru gwneud mewn sos coch hefyd!
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 12:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Byddwn i'n ymhyfrydu mewn cylch mytholeg!
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 2:58 pm
gan ceribethlem
Tegwared ap Seion a ddywedodd:sian a ddywedodd:Geraint a ddywedodd:Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto
Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly
Socia nhw mewn coca-cola dros nos
a dyna i chi'r cylch byrraf erioed
www dwnim, sa chdi'n medru gwneud mewn sos coch hefyd!
Onid yn y cylch gwyddoniaeth ddylai hwn fod? Mae coca-cola a sos coch yn llawn o asidau organig!
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 4:24 pm
gan nicdafis
Macsen, os ti'n fodlon ei gymedroli, does gen i ddim problem gyda'r syniad. I fi, mae mytholeg yn bwnc llawer mwy cynhwysfawr na "crefydd" - wel, mae'n bwnc sy'n cynnwys crefydd, wrth gwrs.
*hwyiaid*
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 10:28 pm
gan Macsen
Diolch, Nic. Tydw i'm yn gweld bydd llawer o angen cymeradolwr (anodd dadlau yn ffyrnig dros rywbeth sydd wrth ddiffiniad yn ffeithiol ansicr) ond mi wna i gymryd y swydd anrhydeddus os oes angen.
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 10:40 pm
gan Gwen
Wel, dwn im chwaith - dwi'n dechrau mynd yn flin efo chdi am osgoi ateb fy nghwestiwn i de Macsen...
Postiwyd:
Mer 22 Chw 2006 10:42 pm
gan Tegwared ap Seion
Chwedloniaeth yn hytrach na Mytholeg?
Postiwyd:
Iau 23 Chw 2006 12:51 am
gan Huw Psych
Onid yw chwedloniaeth a mytholeg yr un peth??
I fi mae chwedloniaeth a hanes yn rhedeg yn agos iawn at eu gilydd, ac weithiau ma hi'n ffin denau iawn rhwng y ddau. Er hynny mae ambell i chwedl/au e.e. Mabinogi a'i debyg yn cael ei roi ar wahan i hanes.
Mi fysa cylch chwedloniaeth yn dda, ond mi fysa hi'n bosibl ei roi o o dan y cylch hanes hefyd!!
Postiwyd:
Iau 23 Chw 2006 12:50 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Huw Psych a ddywedodd:I fi mae chwedloniaeth a hanes yn rhedeg yn agos iawn at eu gilydd, ac weithiau ma hi'n ffin denau iawn rhwng y ddau.
fuesi'n meddwl fod chwedlau wedi digwydd goiawn am flynyddoedd, duchymyg byw...deud gwir mae'n well gen i gredu mewn chwedlau o hyd na hanes. . . [gwenoglun breuddwydio]