Tudalen 2 o 2

Re: Cylch Mytholeg

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 2:29 pm
gan Gwen
Macsen a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:Pwy oedd Meirion Wyllt, Macsen? Ai Meirion, wyr Cunedda?


Petai Cylch Mytholeg mi fyddi di'n cael dy ateb! ;)


Ond... ond... :( O ran diddordeb... Meddwl tybed ydi o rywsut yn gysylltiedig

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2006 7:33 pm
gan Tegwared ap Seion
sian a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:
Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto :rolio: :winc:

Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly :wps:


Socia nhw mewn coca-cola dros nos :D


a dyna i chi'r cylch byrraf erioed :lol:


www dwnim, sa chdi'n medru gwneud mewn sos coch hefyd! :lol:

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 12:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Byddwn i'n ymhyfrydu mewn cylch mytholeg! :D

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 2:58 pm
gan ceribethlem
Tegwared ap Seion a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:
Al a ddywedodd:Mewn ychydig, fydd na cylch efo sut mae neud darnau arian edrych yn sgleiniog eto :rolio: :winc:

Deud, gwir, sa fin hoffi trafod pethau felly :wps:


Socia nhw mewn coca-cola dros nos :D


a dyna i chi'r cylch byrraf erioed :lol:


www dwnim, sa chdi'n medru gwneud mewn sos coch hefyd! :lol:
Onid yn y cylch gwyddoniaeth ddylai hwn fod? Mae coca-cola a sos coch yn llawn o asidau organig!

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 4:24 pm
gan nicdafis
Macsen, os ti'n fodlon ei gymedroli, does gen i ddim problem gyda'r syniad. I fi, mae mytholeg yn bwnc llawer mwy cynhwysfawr na "crefydd" - wel, mae'n bwnc sy'n cynnwys crefydd, wrth gwrs.

*hwyiaid*

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:28 pm
gan Macsen
Diolch, Nic. Tydw i'm yn gweld bydd llawer o angen cymeradolwr (anodd dadlau yn ffyrnig dros rywbeth sydd wrth ddiffiniad yn ffeithiol ansicr) ond mi wna i gymryd y swydd anrhydeddus os oes angen.

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:40 pm
gan Gwen
Wel, dwn im chwaith - dwi'n dechrau mynd yn flin efo chdi am osgoi ateb fy nghwestiwn i de Macsen... :drwg:

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:42 pm
gan Tegwared ap Seion
Chwedloniaeth yn hytrach na Mytholeg?

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 12:51 am
gan Huw Psych
Onid yw chwedloniaeth a mytholeg yr un peth??

I fi mae chwedloniaeth a hanes yn rhedeg yn agos iawn at eu gilydd, ac weithiau ma hi'n ffin denau iawn rhwng y ddau. Er hynny mae ambell i chwedl/au e.e. Mabinogi a'i debyg yn cael ei roi ar wahan i hanes.

Mi fysa cylch chwedloniaeth yn dda, ond mi fysa hi'n bosibl ei roi o o dan y cylch hanes hefyd!!

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 12:50 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Huw Psych a ddywedodd:I fi mae chwedloniaeth a hanes yn rhedeg yn agos iawn at eu gilydd, ac weithiau ma hi'n ffin denau iawn rhwng y ddau.
fuesi'n meddwl fod chwedlau wedi digwydd goiawn am flynyddoedd, duchymyg byw...deud gwir mae'n well gen i gredu mewn chwedlau o hyd na hanes. . . [gwenoglun breuddwydio]