Dau gynnig dan sylw...

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Postiogan Mali » Gwe 24 Chw 2006 1:55 am

gronw a ddywedodd:fyny i ti pa fath o gylch ti am neud wrth gwrs Mali, ond dwi ddim rili'n meddwl bod cyfuno seiat i "expats" efo seiat i ddysgwyr yn syniad da. dwi'n gweld nhw fel dau fath gwahanol o bobl, opposites bron, un grwp sydd wedi gadael cymru am ba bynnag reswm a grwp arall sydd wedi penderfynu gafael mewn rhan o gymru oedd ddm ganddyn nhw o'r blaen.

os oes lot o gymry alltud ar y maes a'u bod am gael cylch i gyd-hiraethu am wlad y menig gwynion, digon teg. dwi'n tueddu i gytuno efo agwedd nic at maes-e a dysgwyr, sef ei bod hi'n well eu bod nhw yn y brif ffrwd yn hytrach na'u bod yn teimlo mai dim ond yng "nghylch y dysgwyr" maen nhw'n cael siarad a'u bod nhw felly wedi eu geto-eiddio.


Diolch i ti am dy ymateb gronw...mae'n help mawr cael syniadau ayb. Y dysgwyr 'roeddwn yn cyfeirio atynt oedd y rhai hynny sydd yn byw y tu allan i Gymru . [ Dwi ddim yn meddwl i mi ddod ar draws rhai sydd yn byw yng Nghymru eto]Ac fel ti'n gweld, mae gen i rhywbeth yn gyffredin efo nhw. Fel Cymraes iaith gyntaf, mi gefais i drafferth mawr ar y cychwyn am nad oeddwn yn medru ymuno i mewn i bethau ....gan nad ydwi'n byw yng Nghymru. Mi fedrai feddwl fod hyn yn anoddach fyth i'r rhai sydd yn dysgu'r IAith .
Nid cylch i hiraethu yn unig fydd o gyda llaw.... :P
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron