Tudalen 1 o 2

Dau gynnig dan sylw...

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 4:09 am
gan Mali
Cylch ar gyfer dysgwyr , a chylch ar gyfer y rhai sydd ddim yn byw yng Nghymru . Neu efallai cyfuniad o'r ddau?
Be da chi'n feddwl?

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 9:43 am
gan docito
Hoffwn i os base seiat yn hytrach na chylch. Ma gen i ddiddordeb mawr yn y Cymry/dysgwyr alltud gan fy mod i wedi bod yn un. Ond bellach dw i'n byw nol adre a base hi'n neis i bawb weld y negeseuon

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:17 am
gan Socsan
Mae

Re: Dau gynnig dan sylw...

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:34 am
gan huwwaters
Mali a ddywedodd:Cylch ar gyfer dysgwyr , a chylch ar gyfer y rhai sydd ddim yn byw yng Nghymru . Neu efallai cyfuniad o'r ddau?
Be da chi'n feddwl?


Mali. am dy fod yn 'Gyfrannwr', un o'r perks yw'r gallu i greu cylch dy hun am be bynnag. Gyrra requisition i Nic neu Aran neu Barbarella, a hey presto!

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 11:56 am
gan nicdafis
Aye, rho wybod os ti am greu "Cylch Mali" - cei di ddiffinio fe fel y mynni di.

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 12:59 am
gan Mali
Diolch am yr ymateb positif :D
Os dwi'n creu cylch fy hun...gan fy mod i'n 'gefnogwr', ai dim ond y cefnogwyr fydd yn cael bod yn aelodau o'r cylch hwnnw?
Mi wn

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 8:46 pm
gan Pencrwban
Bore da. Dw i'n yma aros wrth Prifysgol a mae hi'n fy nghyntaf dydd. Dw i'n hapus iawn. Fel dych chi'n gwybod Cymraeg yw fy ail iaith. Felly dw i'n credu dyma syniad da.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Chw 2006 1:01 am
gan gronw
fyny i ti pa fath o gylch ti am neud wrth gwrs Mali, ond dwi ddim rili'n meddwl bod cyfuno seiat i "expats" efo seiat i ddysgwyr yn syniad da. dwi'n gweld nhw fel dau fath gwahanol o bobl, opposites bron, un grwp sydd wedi gadael cymru am ba bynnag reswm a grwp arall sydd wedi penderfynu gafael mewn rhan o gymru oedd ddm ganddyn nhw o'r blaen.

os oes lot o gymry alltud ar y maes a'u bod am gael cylch i gyd-hiraethu am wlad y menig gwynion, digon teg. dwi'n tueddu i gytuno efo agwedd nic at maes-e a dysgwyr, sef ei bod hi'n well eu bod nhw yn y brif ffrwd yn hytrach na'u bod yn teimlo mai dim ond yng "nghylch y dysgwyr" maen nhw'n cael siarad a'u bod nhw felly wedi eu geto-eiddio.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Chw 2006 1:36 am
gan Mali
Pencrwban a ddywedodd:Bore da. Dw i'n yma aros wrth Prifysgol a mae hi'n fy nghyntaf dydd. Dw i'n hapus iawn. Fel dych chi'n gwybod Cymraeg yw fy ail iaith. Felly dw i'n credu dyma syniad da.


Dydd da i ti Pencrwban :)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Chw 2006 1:49 am
gan Tegwared ap Seion
ar