Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 18 Rhag 2006 10:40 pm
gan Mali
Croeso i ti KJ. :D
Yn edrych ymlaen am gyfraniadau a hanesion gennyt o Awstralia.

Cyntedd y Cylchau

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 12:22 pm
gan CarwynLloyd
Helo o Arizona. Gwlad dwyiethog arall tebyg i fy gartref Ynys Mon. Ond mae 45c yn y cysgod heddiw!!!

Re: Cyntedd y Cylchau

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 3:38 pm
gan Mali
CarwynLloyd a ddywedodd:Helo o Arizona. Gwlad dwyiethog arall tebyg i fy gartref Ynys Mon. Ond mae 45c yn y cysgod heddiw!!!


Waw, mae hynny'n andros o boeth . 8) Dal i stryglo da ni yma efo tymheredd o 16 - 21C. Ond fe ddaw y tywydd cynnes cyn bo hir. :)
Mae 'na gylch Cymry ar Wasgar ar y maes os hoffet ti ymuno.

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 5:45 pm
gan Arwen
S'mae o Galiffornia Mali! Ga i ymuno â chi? Dw i ddim yn Cymry :( ond mae fy ngalon yn Gymru a rwy'n caru Cymraeg, fel wyt ti'n gwybod. :D

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 10:33 pm
gan Mali
Arwen a ddywedodd:S'mae o Galiffornia Mali! Ga i ymuno â chi? Dw i ddim yn Cymry :( ond mae fy ngalon yn Gymru a rwy'n caru Cymraeg, fel wyt ti'n gwybod. :D


Ydw wir Arwen :D Rhaid i mi dy ganmol am dy flog Cymraeg. Da iawn ti!
Croeso i ti ymuno â Chylch y Cymry ar Wasgar. Cwbwl sydd raid i ti wneud ydi mynd i'r linc yma.Wedyn clic ar 'Ymuno â chylch.'

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 11:45 pm
gan Arwen
Mali a ddywedodd:
Arwen a ddywedodd:S'mae o Galiffornia Mali! Ga i ymuno â chi? Dw i ddim yn Cymry :( ond mae fy ngalon yn Gymru a rwy'n caru Cymraeg, fel wyt ti'n gwybod. :D


Ydw wir Arwen :D Rhaid i mi dy ganmol am dy flog Cymraeg. Da iawn ti!
Croeso i ti ymuno â Chylch y Cymry ar Wasgar. Cwbwl sydd raid i ti wneud ydi mynd i'r linc yma.Wedyn clic ar 'Ymuno â chylch.'


O, diolch yn fawr, Mali! Rwyt ti rhy caredig. :wps: Rwy'n mwynhau fy mlog - mae e'n hwyl wych!

Rwy i wedi dilyn dy gyfarwyddiadau a, gobeithio, rwy i wedi ymuno â'r cylch nawr. :D

PostioPostiwyd: Sad 23 Meh 2007 3:01 am
gan Mali
Newydd gael dy e bost Arwen...mi ddylia ti weld y cylch ar waelod dy dudalen Hafan rwan , cyn belled a dy fod wedi mewngofnodi. :)
Hwyl........