Tudalen 1 o 5

Cynnig: Cylch Gwerin

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 8:16 pm
gan Tegwared ap Seion
Syniad am gylch i drafod traddodiad gwerinol Cymru - yr ochr alawon gwerin, dawnsio gwerin a cherdd dant (y peth go-iawn dim y wannabes eisteddfod yr urdd :winc: ) a ballu. Ail diwn i Pont Caerodor, rhywun?


[gol. ychwanegu pol-piniwn a'i gywiro]

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 11:21 pm
gan ~Elso~
Syniad da! Faswn i bendant yn ymuno. Son am betha gwerin a'r we Teg, ma gen ti wefan i'w hadeiladu, sharpish!! (A dwi ddim yn siwr am Pont Caerodor chwaith :wps: )

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 11:24 pm
gan Tegwared ap Seion
dow rhen Elsiiiiii! 'sdalwm! Oes, ti'n iawn am y wefan, mi nai dros Pasc. gaddo!. Falch bo chdi yn licio'r syniad! :winc:

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 8:37 am
gan Fflamingo gwyrdd
Hmmm...dwi'm yn gwbod be'di henw hi, ond fel'ma mai'n swnio -

"dy dy dy dy dyyy dyd dy dydy dydy dy dy dy dydydy dy dydy dy dy dy dy"....

'Swn i'n ymlaelodi :winc:

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 11:28 am
gan nicdafis
Dim problem.

Cam 1: ymuna

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 1:05 pm
gan Mr Puw
Aelod arall yn fama! Dwi'n shwr fod llawar di clywad am Gymdeithas Ddawns Werin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru ond sa'n ddiddorol gweld faint o bobl sy'n ymwybodol o fudiada fatha (peswch;plyg) CLERA a Trac.

Pont Caerodor?! Hmmm,feddyliai am rwbath! :winc:

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 1:30 pm
gan Tegwared ap Seion
nicdafis a ddywedodd:Cam 1: ymuna

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 2:28 pm
gan Tegwared ap Seion
tra bod NatWest yn gneud gymaint a fedran nhw efo 'nwy bunt i rhwng fy nghyfri i ag un Nic...dwi 'di cael NB yn deud bod angen gwell enw! (dwi yn cytuno gyda llaw...) felly unryw awgrymiadau?!

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 3:00 pm
gan gronw
Tegwared a ddywedodd:cerdd dant (y peth go-iawn dim y wannabes eisteddfod yr urdd :winc:)

na i ymuno, i drafod yr uchod!

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 5:21 pm
gan Tegwared ap Seion
Grŵfi. Gobeithio g'neith Gwenyn ymuno hefyd am yr un rheswm! :D Ella bydda lle i drafod effaith s