Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 1:00 pm
gan mam y mwnci
cewch ychwanegu8 fy enw at y restr o bobl fyddai'n ymaelodi - san'n handi iawn cael gwybod beth sy'n mynd ymlaen a gweld llyniau o deithiau ag ati - dwi'n dallt eich bod yn mynd i wlad pwyl eto? math yna o beth.


O.N dwi'n siwr bod Mon a Chaernarfon yn dawnsio i 'bont caerodor' gwahannol ar adegau!

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 1:29 pm
gan Tegwared ap Seion
ooo yndan! Sgen neb enw i fi? Gewch chi tan nos Ferchar i feddwl am wbath gwell na "Cylch Gwerin" a wedyn ma'r ffurflenni hirfaith yn mynd at Mr Dafis!!

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 3:41 pm
gan Gwen
bartiddu a ddywedodd:Cartref


Os mai Cartref Mynyddog sy gen ti dan sylw, mae hi yn Ceinion y Gan (Wrexham, d.d., c.1900). Dim syniad am y gweddill, sori.

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 3:45 pm
gan mam y mwnci
Dwi di danfon neges breifat efo geiriau 'hon yw fy olwen i' os oes rhywun arall isho nhw mi wnai bostio nhw?

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 3:55 pm
gan Gwen
O ran diddordeb, Mam y Mwnci, o lle cest ti nhw? Sori os nad oeddat ti di meddwl datgelu dy ffynonellau!

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 4:00 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Tegwared ap Seion a ddywedodd:ooo yndan! Sgen neb enw i fi? Gewch chi tan nos Ferchar i feddwl am wbath gwell na "Cylch Gwerin" a wedyn ma'r ffurflenni hirfaith yn mynd at Mr Dafis!!



Cap Stabal

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 4:05 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Mi hoffwn innau ymuno hefyd, os caf drafod Mynyddog, Ceiriog et al. Hefyd, byddai'n lle i drafod Hen Benillion, a'u defnydd cymdeithasol. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y Cylch Gwerin a'r Seiat Llenyddiaeth, byddai angen rhywfaint fwy o ddychymyg i bwyso a mesur gwerth anthropolegol y rhain... Y traddodiad eisteddfodol, y berthynas rhwng y geiriau a'r gerddoriaeth ayb.

Mae'r llyfr cynhwysfawr, C

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 4:11 pm
gan Tegwared ap Seion
Yndi ma hwnna'n lyfr gwych, twyllwr. Dros y blynyddoedd roedd llawer o "ffefrynnau" gen i...llyfr sbrings Olwen E. Jones oedd y cynta, a hwn yw'r diweddara' i mi gael chwilio am ganeuon gwerin.

Hefyd, byddai'n lle i drafod Hen Benillion, a'u defnydd cymdeithasol. Er mwyn gwahaniaethu rhwng y Cylch Gwerin a'r Seiat Llenyddiaeth, byddai angen rhywfaint fwy o ddychymyg i bwyso a mesur gwerth anthropolegol y rhain... Y traddodiad eisteddfodol, y berthynas rhwng y geiriau a'r gerddoriaeth ayb.


gwd thincing, batman. Byddant yn dod o dan "Gerdd Dant" (y peth go-iawn ;) ) bosib? Cenir llawer iawn o'r penillion hyn wedi'r cyfan.

Cap Stabal


licio fo

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 4:11 pm
gan mam y mwnci
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:ooo yndan! Sgen neb enw i fi? Gewch chi tan nos Ferchar i feddwl am wbath gwell na "Cylch Gwerin" a wedyn ma'r ffurflenni hirfaith yn mynd at Mr Dafis!!



Cap Stabal


Be am "8"
as in figwr 8 ond hefyd yr hen symbol am 'cool' yn nyddiau cynnar tecstio.

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 4:16 pm
gan Tegwared ap Seion
oedd wir?! Ew ti'n dangos dy oed ;)