Tudalen 1 o 2

Byd Crefft Rhyfel

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 9:42 pm
gan nicdafis
Newydd greu cylch/seiat ar gyfer chwaraewyr Byd Crefft Rhyfel (World of Warcraft). Ar fy mam mae'r bai. Hi brynodd Burning Crusade i'm pen-blwydd.

Al Pacino a ddywedodd:..and they pull me back in!



[Golygwyd - mae'r cylch wedi mynd i ebargofiant, ond mae'n neis cael rhywle i drafod y gêm.]

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 9:21 am
gan Macsen
Mae gen i gopi o'r gem ond heb chwarae ers tua dwy flynedd. Roedd o'n brofiad braidd yn unig rhedeg o gwmpas ar fy mhen fy hun yn ymosod ar raptors, ond dwi'n hoffi'r syniad o Guild Cymraeg. Fyddai pawb yn gorfod ail ddechrau gyda cymeriadau newydd yn yr un byd, ta be'?

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 12:01 pm
gan nicdafis
Byddwn i'n fodlon trosglwyddo fy mhrif gymeriad i weinydd newydd, ond byddai'n well 'da fi peido colli'r un sy 'da fi nawr eto - lefel 50 yw hi erbyn hyn.

Mae digon o aur 'da fi yn y gêm i roi <i>head start</i> i twinciaid Cymraeg ddo.

PostioPostiwyd: Mer 07 Maw 2007 1:22 am
gan sanddef
Byddai guild Cymraeg ar SWG hefyd yn syniad da.

PostioPostiwyd: Sad 23 Meh 2007 8:29 am
gan sanddef

PostioPostiwyd: Sad 07 Gor 2007 12:41 pm
gan sanddef
Dw'i'n meddwl am brynu LOTRO dydd Llun nesa. Unrhywun arall yn cael ei demtio?

PostioPostiwyd: Sad 07 Gor 2007 6:24 pm
gan Positif80
Dwi ofn prynu'r gem ar ol gweld y South Park lle mae'r hogiau i gyd yn ei prynu - heblaw am Butters, sy'n prynu Hello Kitty Island Adventure. :? :crechwen:

PostioPostiwyd: Sad 14 Gor 2007 5:53 pm
gan sanddef
Mae'r gem Arglwydd y Modrwyau Arlein yn eitha da. Yn wahanol i gemau eraill, dydy'r "grinding" ddim mor ddiflas, gyda swm enfawr o "quests" i'w neud ac hefyd mae'r broses o "grinding" yn lot mwy llesol. Mae'r gem hefyd yn lot mwy ffyddlon i'r stori wreiddiol nag sydd yr achos gyda Star Wars Galaxies. Gweler yr adolygiad YMA am fwy o fanylion.

PostioPostiwyd: Sul 15 Gor 2007 7:23 pm
gan Tronaldo
Gesi free trial o'r burning crusade drwy'r post wythnos dwethaf, a dwi'n dal yn hyn yn ôl gymaint rhag ail llwytho'r gem....

PostioPostiwyd: Llun 16 Gor 2007 8:59 am
gan nicdafis
Ces i un o reiny hefyd, a finnau wedi prynu'r blydi peth eisioes.