Cylch "Cymraeg i Oedolion"

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Cylch "Cymraeg i Oedolion"

Postiogan nicdafis » Sul 11 Maw 2007 11:39 am

Newydd greu seiat ar gyfer <b>pawb</b> sydd â diddordeb yn y maes Cymraeg i Oedolion.

D.S. Nid "seiat y dysgwyr" bydd hwn. Mae digon o lefydd ar y we i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg, ac mae wastad croeso i ddysgwyr ar maes-e.com. Dw i ddim yn gweld bod angen seiat ar wahan i ddysgwyr yma. Diben y seiat newydd yw creu lle i bobl sy'n <b>gweithio</b> ym maes CiO, neu'r dysgwyr dyn ni'n ceisio addysgu ;-)

Un rheswm dros sefydlu hwn yw i fi sylweddoli does 'na unlle i weithwyr yn y maes yma trafod eu gwaith sy ddim yn dibynnu ar arian cyhoeddus mewn un ffordd neu'r llall, neu sy ddim yn cael ei drefnu gan y bobl dyn ni'n gweithio iddynt.

Dweda i ragor yn y seiat ei hun. Yn y cyfamser, os hoffech chi ymuno yn y sgwrs, mae rhaid i chi <a href="http://maes-e.com/groupcp.php?g=3692">ymuno â'r cylch defnyddwyr yn gyntaf</a> wedyn mi wewch chi'r <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=77">seiat</a> ar dudalen flaen y maes.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai