Tudalen 1 o 1

Sut i ddechrau Cylch eich hunan

PostioPostiwyd: Maw 13 Maw 2007 10:19 am
gan nicdafis
O bryd i'w gilydd mae pobl yn dod ata i a dweud "a gawn ni seiat trafod begonias plîs?" ac mae rhaid i mi benderfynnu a fydd digon o fegoniagarwyr ar y maes i gynnal y fath seiat. Felly, i wneud fy mywyd i yn haws...

Os wyt ti am agor seiat preifat, dechreua edefyn yma yng Nghyntedd y Cylchau. Os cei di 5 aelod y maes sydd â diddordeb wna i seto'r seiat lan i chi. Byddai'n help hefyd 'sech chi'n trafod pethau fel enw y seiat, a'r disgrifiad byr bydd yn ymddangos ar y dalen flaen.

Unwaith mae 6 ohonoch chi yn barod i fod yn aelodau'r cylch, rho wybod i mi mewn neges sydyn.

Gwd, diolch.