Tudalen 1 o 1

athroniaeth

PostioPostiwyd: Gwe 19 Hyd 2007 12:10 pm
gan Selador
Oes posib agor cylch athroniaeth? Fysa gan unrhywun ddiddordeb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Hyd 2007 12:49 pm
gan nicdafis
Mae rhywun wedi awgrmu o'r blaen, ond doedd neb yn fodlon bod yn gymedrolwr drosto. Os wyt ti am wneud, cysyllta â fi yn breifat gyda enw'r darpar seiat, a disgrifiad.

Re: athroniaeth

PostioPostiwyd: Gwe 14 Maw 2008 12:39 am
gan Gladus Goesgoch
Selador a ddywedodd:Oes posib agor cylch athroniaeth?


Mae'n dibynu be wyt ti'n feddwl efo posib. Be ydi posibilrwydd? Ydio'n gwestiwn mathemategol, ynteu ydi o'n fater dyfnach? Be ddaeth gyntaf? Bwriad? Ewyllys? Gweithred? A ydym yn ymwybodol o hynny?

Re: athroniaeth

PostioPostiwyd: Iau 05 Chw 2009 10:31 pm
gan WoganJones
Taoist ydw i. Mae gen i ddiddordeb. Hoffwn weld Cymru cyfan yn troi at 'y ffordd'.

Re: athroniaeth

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2009 4:58 am
gan Kantorowicz
byddai hynny'n ddiddorol. diffyg geirfa fyddai 'mhroblem i. rwy'n eithaf ffan o athronwyr Ffrangeg y ganrif ddiwethaf, ond fyddwn i dim yn gwybod lle i ddechrau trafod Derrida, Lacan, Blanchot yn Gymraeg. Dyw'r rhain ddim ar gael mewn cyfieithiad, nac ydyn nhw? Oes chwant gyda rhywun rhoi cynnig ar gyfieithu paragraff neu ddau?

Re: athroniaeth

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 8:51 pm
gan bartiddu
Oes 'na gylch wedi'i greu?
Ta beth, newydd ddarganfod gwefan y bachan 'ma Rob Bryanton, llwyth o syniadau diddorol i grafu pen iddynt!
http://www.youtube.com/user/10thdim

Re: athroniaeth

PostioPostiwyd: Sul 18 Gor 2010 9:07 pm
gan Dafad∙Ddall
Bysa diddordeb gen i hefyd.