Wrth i faes-e dyfu, dyn ni'n ffeindio bod 'na alw am seiadau newydd o bryd i'w gilydd. Yn aml iawn, ni fydd y seiadau 'ma o ddiddordeb i bawb sy'n ymweld â'r maes, neu, o bosib, mae rhesymau eraill pam dydy pobl ddim eisiau'r seiat i fod yn agored i bawb. Yn achosion fel hyn, mae'n well 'da ni greu seiat preifat sy'n agored i aelodau un o'n "cylchoedd defnyddwyr".
I bobl sy ddim yn aelod o'r cylch priodol, ni fydd y seiat yn ymddangos ar dudalen flaen y maes, a ni fydd y negeseuon sy'n cael eu postio ynddynt yn ymddangos ymysg y "negeseuon newydd". Yr unig ffordd i weld y seiat, ac i gyfrannu ato, yw i ymuno â'r cylch yn gyntaf. Os dwyt ti ddim yn gweld unrhyw seiat ond yr un mae'r edefyn hwn wedi'i bostio ynddo yn y categori "Cylchoedd Defnyddwyr", dwyt ti ddim yn aelod o unrhyw gylch defnyddiwr. Sorto dy hun, mas, ychan!
Sut mae ymuno â chylch?
Cer at y panel Rheoli Personol (top chwith ar ol i ti fewngofnodi). Yma cei di ymaelodi gyda'r Cylchoedd Defnyddwyr amrywiol. Dylet ti gael neges croeso o fewn cwpwl o ddiwrnodau, ond bydd yn amyneddgar, mae rhai ohonon ni gyda bywydau tu fas i faes-e!
Beth wedyn?
Pan fyddi wedi cael dy dderbyn, byddi yn gweld y seiat perthnaol ar waelod y dudalen ar ol mewngofnodi a byddi di'n gallu darllen a chyfrannu fel yn bob seiat arall ar y maes. Os wyt ti'n gymedrolwr Cylch, bydd modd i ti reoli'r cylch yma hefyd.