Tudalen 1 o 1

Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 05 Chw 2009 10:19 pm
gan WoganJones
Hoffwn ddechrau cylch ar gyfer athrawon Cymraeg/Cyfrwng Cymraeg led led Cymru er mwyn trafod sefyllfaoedd o ran addysg Gymraeg, cyflwr yr iaith yn eu hysgolion, cefnogaeth rhieni ayyb yn eu hardaloedd nhw. Hoffwn weld fforwm sy'n onest ac yn agored sy'n mynd i fod yn help i athrawon drafod y pethau sy'n eu becso nhw fwyaf. Does dim amser i athrawon edrych lan heb son am gwrdd yn gyson yn gorfforol - dim ond ar y we allwn ni wneud hyn. Mae angen fforwm athrawon Cymraeg, yn enwedig i'r rhai ohonom sy'n bell i ffwrdd o ysgolion eraill.

Beth amdani? Os oes diddordeb sgwennwch neges yma. Mae angen 5-6 o aelodau i ddechrau seiat/cylch.

Wogan Jones

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2009 9:47 pm
gan Josgin
Iawn.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2009 11:48 pm
gan ceribethlem
Yup, ac fe dybiwn fod Duw a diddordeb.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 12:37 am
gan Hedd Gwynfor
Dwi'n credu mod i wedi gosod hwn yn iawn nawr. Ewch i ymuno gyda'r cylch 'Athrawon' i weld os ydych wedyn yn gallu gweld a phostio yn y Seiat Athrawon.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 5:46 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n credu mod i wedi gosod hwn yn iawn nawr. Ewch i ymuno gyda'r cylch 'Athrawon' i weld os ydych wedyn yn gallu gweld a phostio yn y Seiat Athrawon.

Fi 'di llwyddo ta beth.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 6:37 pm
gan Hedd Gwynfor
Dwi wedi gosod WoganJones a Ceribethlem fel cymedrolwyr, felly bydd angen i chi dderbyn y bobl sydd am ymuno.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 10:24 pm
gan Duw
Hoffwn fod yn aelod hefyd Hedd, diolch am hyn. Defnyddiol iawn.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2009 11:46 pm
gan Duw
Ces i HMS heddi gyda Paul Ginnis ("Teacher's Toolkit"). Absoliwtli mazin. Dwi deall bod 18 mis o aros i gael ymweliad - dwi'n deall pam nawr. Dyma ysbrydoliaeth!

Chi'n siwr o fod yn gyfarwydd a'r Toolkit, ond gwnaeth hwn ddysgu gwersi fel taw ni odd y plant, gyda digon o ymarferion i gadw'r athrawon mwya trafferthus dan ei fawd.

Angen adfywiad o dro i dro.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 12:39 pm
gan Josgin
Ymhen 10 mlynedd , dwi'n mynd i ymddeol a mynd rownd ysgolion yn cynnig y cyngor canlynol i athrawon :

(1) Mae'n rhaid i'r plant fod yn fodlon gwrando .
(2) Mae'n rhaid i'r plant fyhafio.
(3) Mae'n rhaid i'r plant weithio.

Erbyn hynny, bydd y rhod wedi troi , a bydd ysgolion yn gorfod gofyn i mi ddod 2 flynedd o flaen llaw.
Byddaf yn gydnabyddiedig fel 'guru' craff , a caf fy nyfynnu ar bob gwefan addysgiadol.
A gaf fi awgrymu llyfr difyr 'Its your time you're wasting ' (Frank Chalk ) fel hanfod i bob athro ifanc.

Re: Cylch Athrawon Cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 3:07 pm
gan Hedd Gwynfor
I ymuno gyda'r cylch 'Athrawon' Ewch yma - ucp.php?i=167 - Rhowch glec ar y cylch bach ar ochr dde 'Athrawon' a gwasgu 'Anfon' ar waelod y dudalen.

Ar ôl cael eich derbyn i'r cylch, bydd modd i chi ymweld a chyfrannu yn y Seiat arbennig ar gyfer Athrawon cyfrwng Cymraeg yma - viewforum.php?f=88

I weld pwy sydd eisoes yn aeloadau, ewch yma - memberlist.php?mode=group&g=4007