Tudalen 1 o 1

byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 6:33 pm
gan SerenSiwenna
Hia pawb,

Dwi am creu wefan i hyrwyddo fy hun fel awdures/ bardd/ newyddiadures ac, gan ei fod yn rhad ac am ddim, meddyliais ei wneud ar ffyrf blog...a meddwl o ni bysech chi y bloggwyr frwd yn gallu fy nghori am pryn 'provider' sydd orau o ran coverage, hawster i'w ddefnyddio (megis addio lluniau, creu tudalennau ayyb) ac ynrhyw beth arall nad wyf wedi meddwl amdanni...

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 7:04 pm
gan dafydd
Fasen i'n dewis Wordpress nid yn unig am fod fersiwn Cymraeg ar gael, ond mae rhyngwyneb da iawn yn Wordpress. Mae'n well gen i'r themau sydd ar gael iddo hefyd i gymharu a rhywbeth fel Blogspot.

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 9:19 pm
gan nicdafis
Wordpress dw i'n defnyddio hefyd. Nawr bod nhw'n cynnig llety am ddim, dw i ddim yn gweld unrhyw reswm i fynd am Blogger na dim byd arall.

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 1:14 pm
gan SerenSiwenna
Ie, neshi edrych ar y lleill, yn benaf 'blogspot' gan mai dyna nath "Belle de Jour" ei ddefnyddio - o ni yn meddwl mai raid oedd o'n un poblogaidd ac ati, ond wordpress dwi di fynd am rwan, mae e'n eithaf hawdd ei ddefnyddio, dwi jest wrthi'n straffaglu ar syt i lunio'r tudalenni/ categoriau orau i bobl cael fynd i'r seiat a ffeindio be da nhw eisiau yn hawdd ee erthyglau, barddoniaeth, storiau ayyb.

Dwi hefyd yn sidro os dylwn cadw fe'n dwyieuthog drwyddi draw neu os fydda hi'n gweithio'n well cael botymau i Cymraeg/ Saesneg, hmmm :P

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 2:37 pm
gan Rhys
O ran dwyieithrwydd, byddwn i'n awgrymu cael dau flog ar wahan a rhoi dolen o un i'r llall. Os hoffet i bopeth fod ar un blog, un ffordd o fynd o'ch chwmps i yw postio cofnodau arwhan i bob iath (mae cofnod blog mewn dwy iaith yn edrych yn fler yn fy marn i) a defnyddio enw categori gwahanol i gofnodion yn y ddwy iaith (fel mae blog murmur yn wneud)

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 4:37 pm
gan nicdafis
Mae sawl ategyn i WordPress sy'n wneud postio yn ddwyieithog yn haws: hwn, er enghraifft.
Basically, what it does is add two extra fields to the post editing form:
* Language
* Other Language Excerpt
Where "Language" is a field for the two-letter code of the language the post was written in, and "Other Language Excerpt" is a text area for a summary (or translation) of the post in a second language.

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 9:34 pm
gan Rhys
nicdafis a ddywedodd:Mae sawl ategyn i WordPress sy'n wneud postio yn ddwyieithog yn haws: hwn, er enghraifft.


@Nic, (a gobeithio had yw hyn yn swnio'n patronising tuag at SerenSiwenna) ond dw i'n meddwl mai wordpress.com roedd ganddi mewn golwg, ac nid wordpress.org.

@SerenSiwenna Mae wordpress.com yn hosted ac yn gallu cael ei greu mewn chwinciad, tra mae wordprss.org yn golygu tipyn bach mwy o waith ac ychydg o ddealltwriaeth technegol, ond sy'n llawer mwy hyblyg.

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Tach 2009 2:54 pm
gan SerenSiwenna
Rhys a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:Mae sawl ategyn i WordPress sy'n wneud postio yn ddwyieithog yn haws: hwn, er enghraifft.


@Nic, (a gobeithio had yw hyn yn swnio'n patronising tuag at SerenSiwenna) ond dw i'n meddwl mai wordpress.com roedd ganddi mewn golwg, ac nid wordpress.org.

@SerenSiwenna Mae wordpress.com yn hosted ac yn gallu cael ei greu mewn chwinciad, tra mae wordprss.org yn golygu tipyn bach mwy o waith ac ychydg o ddealltwriaeth technegol, ond sy'n llawer mwy hyblyg.


Ha ha, paid a phoeni dwi'n luddite y blogiau! Ia, Wordpress.com dwi di plwmpio am....dwi di bod wrthi'n 'creu' cyn ddwad yma i weld y postiau ar sut i fod yn ddwyieuthog mewn ffordd sensible....damnia! Fydd raid ystyried hyn rwan a mynd nol i newid pethe. Dyma'r blog hyd yn hyn (deutha fi os oes angen newid rhywbeth, dwi eisiau iddo fod y gorau posib dwi'n gallu ei chreu :D : http://www.saralouisewheeler.wordpress.com

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Tach 2009 10:44 pm
gan sian
Dwi newydd ddechrau blog ar wordpress.com - licio fe am ei fod yn edrych yn dda.
Beth yw'r hanes gyda'r cyfieithu? Oes 'na fwy o Gymraeg yn ymddangos yn raddol?

Re: byd y blogiau - pryn di'r gorau?

PostioPostiwyd: Maw 01 Rhag 2009 11:15 am
gan SerenSiwenna
sian a ddywedodd:Dwi newydd ddechrau blog ar wordpress.com - licio fe am ei fod yn edrych yn dda.
Beth yw'r hanes gyda'r cyfieithu? Oes 'na fwy o Gymraeg yn ymddangos yn raddol?


Ha ha, 'pethe dwi'n mwydro amdannyt wrth roi dillad ar y lein', reit dda wir! :lol:

Beth/lle yw'r 'ti du'?