Tudalen 1 o 2

Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 6:43 pm
gan Hedd Gwynfor
Gyda llai o ddefnydd o maes-e erbyn hyn (sgil effaith Facebook/Twitter ayb) a fyddai'n syniad agor yr holl gylchoedd defnyddwyr i bawb? Cafodd rhain ei sefydlu i gychwyn fel mannau mwy arbenigol i drafod stwff efallai nad oedd o ddiddordeb i'r mwyafrif, neu i atal trols. Mae dau reswm da dros eu gwneud yn agored i bawb ddarllen erbyn hyn:

1. Fel bod pob aelod o'r maes yn gallu cyfrannu, heb orfod ymuno â chylch yn gyntaf. Mae ymuno gyda chylch yn gallu bod yn anodd erbyn hyn, gan fod nifer o'r cymedrolwyr ddim yn aelodau gweithredol o'r maes bellach, ac felly does neb yno i dderbyn y sawl sy'n gwneud cais.
2. Gan fod y cylchoedd yn gaeedig ar hyn o bryd, dyw'r robotiaid ddim yn gallu rhestri'r wybodaeth yn y peiriannau chwilio, ac felly mae sawl edefyn diddorol a defnyddiol yn mynd yn angof.

Beth yw eich barn?

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 7:20 pm
gan sian
Iawn - pam lai?

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 9:03 pm
gan Gwen
Nid y Blwch Tywod efallai. O'm rhan i o leia - a Pump am y Penwythnos. Neu o leia gawn ni rybudd fel bod modd dileu / golygu negeseuon.

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 9:06 pm
gan Hedd Gwynfor
Gwen a ddywedodd:Nid y Blwch Tywod efallai. O'm rhan i o leia - a Pump am y Penwythnos. Neu o leia gawn ni rybudd fel bod modd dileu / golygu negeseuon.


Diolch Gwen. Dyna oedd fy mhryder, h.y. bod rhai negeseuon wedi eu postio yn y fforymau cudd na fyddai wedi eu postio fel arall. Dwi sicr yn cytuno na ddylai'r Blwch Tywod gael ei wneud yn hollol gyhoeddus, ond efallai nad oes yr un problemau gyda'r cylchoedd eraill.

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Sul 26 Medi 2010 9:25 pm
gan Gwen
Dyna'r peth. Roeddwn i'n sicr yn dweud pethau mwy diofal yn y Blwch Tywod ac wrth ateb cwestiynau Pump am y Penwythnos a dwi'n siwr nad fi oedd yr unig un. Mi ddudish betha digon gwirion mewn ambell le arall hefyd, ond matar arall ydi hynny.

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 12:09 am
gan nicdafis
Dw i'n ofni y byddai agor cynnwys "preifat" i'r Googlebots yn debyg i greu llwyth o broblemau i ti. Fel mae Gwen yn dweud, oedd pobl yn postio yn y seiadau 'na gan wybod na fyddai pawb a'i gi yn gallu eu darllen. Mewn retrospect, roedd yn gamgymeriad i symud cynnwys o adrannau "agored" y maes i mewn i seiadau preifat (yr edefyn "sut i wneud ffansîns" gan Mihangel Mackinstosh, oedd Carl Morris yn sôn amdano pwy ddiwrnod yn enghraifft da), ond roedd yn anodd rhagweld beth fyddai'n digwydd yn y dyfodol, amser 'ny.

sian a ddywedodd:Iawn - pam lai?

Hawdd i ti ddweud, ti erioed wedi dweud rhywbeth cas am neb. Dw i ddim yn ffansio mynd yn ôl at cael death threats yn fy mewnflwch ;-)

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 9:35 am
gan sian
W sori - o'n i'n edrych nôl trwy sbectol binc!
O'n i'n meddwl am bethau fel Byd Barddol a'r Berllan.
Byddai'n rhaid cadw'r Blwch Tywod, y cylch Athrawon, Cylch y Larseniaid (pwy??), a'r Grŵp Llywio ar gau.

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 3:54 pm
gan Gwen
Newydd sylwi fod Pump am y Penwythnos yn agored p'run bynnag. Ers pryd? :ofn:

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 9:28 pm
gan nicdafis

Re: Agor y Cylchoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 9:31 pm
gan Gwen
Reit. Wel, mae gen i lot o waith dileu i'w wneud. Esgusodwch fi...