Tudalen 1 o 1
Cynganeddu
Postiwyd:
Sad 10 Ebr 2004 8:56 pm
gan Panom Yeerum
Newydd ddechrau ceisio meistro y grefft - fel gobeithio mae llawer eraill yn. Meddwl y buasai yn dda cael lle i drafod cynganeddau, i bostio ymgeisiau ac i bobl eraill eu cywiro ac rhoi awgrymiadau am sut i'w gwella.
Os yw hwn yn cael ymateb dda, bosib ei wneud yn ludiog?
Postiwyd:
Sad 10 Ebr 2004 9:02 pm
gan nicdafis
Ti'n gwybod am <a href="http://www.cynghanedd.com/">Annedd y Cynganeddwyr</a>, wyt?
Postiwyd:
Sad 10 Ebr 2004 9:10 pm
gan Panom Yeerum
ydw, ond dwi ddim cweit yn ei weld mor hawdd i'w ddefnyddio - hefyd teimlo fel fy mod yn ormod o ddysgwr i fedru trafod yno. Ond efallai na jyst fi dio!
Postiwyd:
Sad 10 Ebr 2004 9:31 pm
gan Leusa
hihi! dwi di gofyn am hyn o blaen, Panom Yeerum, a mi yrrodd Nic fi yn f'union i Anedd y Cynganeddwyr - a 'dw i'n ail-adrodd, 'dydi fano ddim gwerth rhaid fi ddeud!
Be am gylch barddoni? os dio'n fflop, ffain, ond be am 30-diwrnod treial?
Postiwyd:
Sad 10 Ebr 2004 11:07 pm
gan Panom Yeerum
Beth? ei wneud ef yn ludiog? - cynghanedd lysg?
Postiwyd:
Sul 11 Ebr 2004 12:23 pm
gan Hogyn o Rachub
Ydi debyg!
'Sa cylch barddoni yn hwyl dw i'n meddwl! Help ni wella cynghaneddu ac ati. Dw i'n enwebu Leus i gymedroli. Mae hi'n haeddu ei lle yn yr haul.
Postiwyd:
Sul 11 Ebr 2004 3:18 pm
gan nicdafis
Os wyt ti'n fodlon Leusa, wna i sefydlu cylch preifat i ti gymedroli.
Postiwyd:
Sul 11 Ebr 2004 4:12 pm
gan gronw
nicdafis a ddywedodd:Os wyt ti'n fodlon Leusa, wna i sefydlu cylch preifat i ti gymedroli.
o, cŵl!!
Postiwyd:
Sul 11 Ebr 2004 7:39 pm
gan Leusa
aye, 'dw i'n fodlon rhoi go arni. gani weld sud mai'n mynd am chydig o wythnosa ia? ella fydd hi'n fflop llwyr.
Postiwyd:
Sul 11 Ebr 2004 11:22 pm
gan nicdafis
Mae Byd Barddol ar agor nawr, ond mae rhaid i Leusa derbyn ti fel aelod y cylch hwnna cyn i'r seiat ymddangos ar hafanddalen y maes - gweler yr <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=75918#75918">edefyn hwn</a> os dwyt ti ddim yn gwybod sut mae hyn yn gweithio.