Ymuno â Chylch Cymdeithas yr Iaith

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Ymuno â Chylch Cymdeithas yr Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 12 Ebr 2004 10:26 am

Delwedd

PWYSWCH AR Y LLUN UCHOD I YMWELD/YMAELODI A'R CYLCH! Dewisiwch Cymdeithas yr Iaith o scroll bar sydd oddi tan y benawd 'Ymuno â cylch' a wedyn pwyswch ar 'Gweld Gwybodaeth'

YN GRYNO (Diolch Nic)

nicdafis a ddywedodd:Cam un: wneud cais i <a href="http://maes-e.com/groupcp.php">ymuno â'r cylch</a>.

Cam dau: aros am yr ebost sy'n dweud dy fod di wedi cael dy dderbyn (gall hyn gymryd sbel, mae rhaid i Hedd dderbyn bob unigolyn sydd am ymuno, a dydy e ddim ar lein 24/7). Dim ond Hedd sy'n gallu dy dderbyn, felly paid sgwennu ata i amdano ;-)

Cam tri: bydd y <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=47">seiat</a> yn ymddangos ar y dudalen flaen, o dan "Cylchau Defnyddwyr" (<i>nid</i> Dyfodol yr Iaith, dw i wedi ei symud, sori). Ond os dwyt ti ddim wedi cwblhau camau 1 a 2 fyddi di ddim yn ei weld.


Nod y cylch yw i drafod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, dulliau gweithredu ayb.

Bydd pawb sy'n ymgeisio i ymuno a'r Cylch yn cael eu siecio yn erbyn rhestr aelodaeth cyfredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac oherwydd hyn gall gymryd rhai diwrnodau i brosesu pob cais.

Os nad ydych yn aelod cyfredol o'r Gymdeithas, ond eisiau cymryd rhan yn y cylch Trafod, gellwch chi ymaelodi heddiw!

Naill ai trwy Archeb Banc Sefydlog i'r Gymdeithas, neu

Myfyriwr Ysgol/Coleg 6ed - £2
Myfyriwr Coleg - £4
Di-Gyflog - £4
Gwaith Llawn Amser - £10
Aelodaeth Teulu £20

Argraffwch y Ffurflen Aelodaeth a'i ddanfon wedi llenwi yn y post gyda manylion archeb banc neu gyda siec.

Unwaith y byddwch yn aelod o'r Gymdeithas gewch rhoi cynnig i ymaelodi gyda'r grwp yma unwaith eto!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Geraint » Maw 13 Ebr 2004 11:21 pm

Hedd, dwi'n aelod ond allaim gweld linc i'r cylch o'r tudalen flaen! besyndigwydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Panom Yeerum » Maw 13 Ebr 2004 11:31 pm

Ti'n iawn - wrth geisio edrych nôl i fy hen ymatebion yn yr edefyn dwi'n cael neges..."Tydi'r edefyn yna ddim yn bodoli"! Ahhhh
Panom Yeerum
 

Postiogan Panom Yeerum » Maw 13 Ebr 2004 11:35 pm

NIC!!!! - Heeeelp!
Panom Yeerum
 

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 13 Ebr 2004 11:35 pm

'Dach chi di edrych o dan 'Yr Iaith' yn hytrach na 'Cylchoedd Defnyddwyr'?

(sori ella bod fi'n bod braidd yn amlwg ond dw i'm yn trio fod yn goelgyd na'm byd!!!!)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 13 Ebr 2004 11:36 pm

Geraint a ddywedodd:Hedd, dwi'n aelod ond allaim gweld linc i'r cylch o'r tudalen flaen! besyndigwydd?

Dyma thi gyd-faeswr

Shit ma'r holl sgwennu
Yn gwneud i mi eisiau mynd i'm wely!
Clicia draw fan acw
Mi ddaw gwyrthiau-ar fy llw

Dwi rili angen mynd allan mwy
Dwi'n troi yn feudwy
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Geraint » Maw 13 Ebr 2004 11:43 pm

Nid yw y linc yn mynd a fi yno
dim ond i fanylion aleodau,yn gryno
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 13 Ebr 2004 11:53 pm

Geraint a ddywedodd:Nid yw y linc yn mynd a fi yno
dim ond i rhestr o aleodau,yn gryno

Gyfeillion i gyd, be ydych yn cach-falu am dan
dylech i gymyd prozac-neu dorri gwythian
Rwyf ar goll am eich testyn
Rydych angen eich amddiffyn
Rhag niwed i'ch hun
Ewch i ymweld a ryw dirlun :winc:
Cyn lladd dyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Leusa » Maw 13 Ebr 2004 11:56 pm

os am barhau i odli,
sbiniwch draw i'r Byd Barddoni...!
Ond am fater cylch yr iaith,
ma di mynd, ma hynny'n ffaith :?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 13 Ebr 2004 11:57 pm

Mae mhen i yn curo, fy nghoesau sy'n wan,
fe welaf yn awr dwi'n 'run sefyllfa, myn dian!
Mae'r cylch di diflannu - ond ga'i ofyn i chwi
Pam ffwc dan ni gyda wedi dechrau odli? :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron