PWYSWCH AR Y LLUN UCHOD I YMWELD/YMAELODI A'R CYLCH! Dewisiwch Cymdeithas yr Iaith o scroll bar sydd oddi tan y benawd 'Ymuno â cylch' a wedyn pwyswch ar 'Gweld Gwybodaeth'
YN GRYNO (Diolch Nic)
nicdafis a ddywedodd:Cam un: wneud cais i <a href="http://maes-e.com/groupcp.php">ymuno â'r cylch</a>.
Cam dau: aros am yr ebost sy'n dweud dy fod di wedi cael dy dderbyn (gall hyn gymryd sbel, mae rhaid i Hedd dderbyn bob unigolyn sydd am ymuno, a dydy e ddim ar lein 24/7). Dim ond Hedd sy'n gallu dy dderbyn, felly paid sgwennu ata i amdano
Cam tri: bydd y <a href="http://maes-e.com/viewforum.php?f=47">seiat</a> yn ymddangos ar y dudalen flaen, o dan "Cylchau Defnyddwyr" (<i>nid</i> Dyfodol yr Iaith, dw i wedi ei symud, sori). Ond os dwyt ti ddim wedi cwblhau camau 1 a 2 fyddi di ddim yn ei weld.
Nod y cylch yw i drafod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, dulliau gweithredu ayb.
Bydd pawb sy'n ymgeisio i ymuno a'r Cylch yn cael eu siecio yn erbyn rhestr aelodaeth cyfredol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac oherwydd hyn gall gymryd rhai diwrnodau i brosesu pob cais.
Os nad ydych yn aelod cyfredol o'r Gymdeithas, ond eisiau cymryd rhan yn y cylch Trafod, gellwch chi ymaelodi heddiw!
Naill ai trwy Archeb Banc Sefydlog i'r Gymdeithas, neu
Myfyriwr Ysgol/Coleg 6ed - £2
Myfyriwr Coleg - £4
Di-Gyflog - £4
Gwaith Llawn Amser - £10
Aelodaeth Teulu £20
Argraffwch y Ffurflen Aelodaeth a'i ddanfon wedi llenwi yn y post gyda manylion archeb banc neu gyda siec.
Unwaith y byddwch yn aelod o'r Gymdeithas gewch rhoi cynnig i ymaelodi gyda'r grwp yma unwaith eto!