Tudalen 1 o 4

Ymunwch a Criw Duw!

PostioPostiwyd: Sul 18 Ebr 2004 10:24 pm
gan Macsen
Beth yw Duw? Pam ein bod ni yma? Ydi'r Beibl yn air Duw ynteu gwastraff papur? Dyma rai o'r cwestiynnau sydd wedi poeni'r ddynoliaeth ers dwy fil o flynyddoedd... ond dim mwyach! Ymunwch a Criw Duw, a bydd yr ateb i bob un o'r cwestiynnau yma'n dod yn glir!

Dyma ambell i sampl... am ddim!

CYNWRF!

Aled a ddywedodd:Gwybod?! So ti'n GWYBOD dy fod wedi dy achub?! Sut?!


PYNCIAU LLOSG!

RET79 a ddywedodd:Felly dyw'r Iddewon ddim yn cael bod yn gay?! Ond mae pawb arall yn?!


HIWMOR!

Rhys Llwyd a ddywedodd:wel i bethau nad sydd yn y beibil fel smocio canabis ffon fesur dda yw asesu os ydyw yn dod rhyngtho chi a duw - os ydyw yna mae'n anghywir, os nad ydyw - hmmm joiwch


AC WRTH GWRS YR HOLL ATEBION!

Cardi Bach a ddywedodd:Un person perffeth sydd eriod wedi bod, a [ATEB I GWESTIYNNAU'R BYD: YMUNWCH A CRIW DUW I GAEL GWELD!] yw hwnnw. os wyt ti'n berffeth mae'n golygu nad wyt ti byth am bechu eto...eto, ma'n flin dy fi i weud, ond fi'n ame falle dy fod ti'n pechu yn achlysurol. Dyw e ddim yn ddigon gweud bo ti wedi [ATEB I GWESTIYNNAU'R BYD: YMUNWCH A CRIW DUW I GAEL GWELD!] a wedyn, hei presto, ti wedi dy achub. Ma'n rhaid i ti fyw dy fywyd o ddydd i ddydd wedyn fel Iesu, a gofyn am [ATEB I GWESTIYNNAU'R BYD: YMUNWCH A CRIW DUW I GAEL GWELD!] pan wyt ti'n methu.


COFIWCH... Mae hyn i gyd AM DDIM pam ych chi'n ymuno a Criw Duw!

Oes rhaid i mi fod yn gristion?

Na! Does dim rhaid i ti fod yn grefyddol! Ond mae rhaid i ti fod yn barod i drafod crefydd a cadw meddwl agored i agweddau crefyddol eraill.

Gret! Sut dwi'n ymuno!?!

Mae'n broses hawdd a fydd yn cymeryd llai na dau funud! GWELER!

Dwi wedi ceisio ymuno ers dros fis, a dyw'r cymeradolwr dal heb adael fi mewn!

O diar! Gwaetha'r modd, mae'r cymeradolwr yn stiwdant diog.

TYDI HYNNY DDIM YN DEG!

Gwranda, met:

Y siawns o fywyd yn bod ar y blaned yma:

1,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siwns o pob un o dy gyn deidiau yn cael nwci a'i gilydd ar yr amser cywir:

15, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siawns o pob un o'r sberms na fod yr un cywir:

110, 000, 000, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

MAE'R SIAWNS FOD TI YN BODOLI YN Y LLE CYNTAF YR UN SIAWNS A DYN YN CURO'R LOTERI DEG BILIWN O WEITHIAU YN OLYNOL.

A ti'n cwyno fod bywyd ddim yn deg? :crechwen:

PostioPostiwyd: Sul 18 Ebr 2004 10:41 pm
gan Leusa
:lol: Llongyfarchiadau! Nid yn unig ti wedi fy mherswadio i i ymuno a Chriw Duw...'dw i wedi cael troedigaeth - iypiiii!

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2004 9:16 am
gan Macsen
Leusa a ddywedodd:Llongyfarchiadau! Nid yn unig ti wedi fy mherswadio i i ymuno a Chriw Duw...'dw i wedi cael troedigaeth - iypiiii!


I unrhyw grefydd, ynte troedigaeth yn gyffredinol? Cofiwch, os ych chi am fy addoli i, cerflun mas o arian plis. Dwi'm yn haeddu aur.

Re: Ymunwch a Criw Duw!

PostioPostiwyd: Sad 08 Mai 2004 10:29 pm
gan Gwyddno
Macsen a ddywedodd:
Gwranda, met:

[b]Y siawns o fywyd yn bod ar y blaned yma:


1,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siwns o pob un o dy gyn deidiau yn cael nwci a'i gilydd ar yr amser cywir:

15, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siawns o pob un o'r sberms na fod yr un cywir:

110, 000, 000, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

MAE'R SIAWNS FOD TI YN BODOLI YN Y LLE CYNTAF YR UN SIAWNS A DYN YN CURO'R LOTERI DEG BILIWN O WEITHIAU YN OLYNOL.

A ti'n cwyno fod bywyd ddim yn deg? :crechwen:


Yn fathemategol (a rwy'n gwybod fod hyn yn iawn achos clywais i fe ar Radio 4), er mwyn i unrhyw un ohonom ni fod yma mae nifer y bobl y bydde'n rhaid iddyn nhw i gyd gael rhyw er mwyn ein cenhedlu ni yn fwy na cyfanswm yr holl bobl sy wedi byw erioed, felly yn fathemategol mae'n amhosibl i'r un ohonon ni fod yma! meddyliwch am hynny dros eich corn flakes :winc:

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 4:57 pm
gan Chwadan
Doniol Macsen :rolio: :D

Re: Ymunwch a Criw Duw!

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 8:45 pm
gan Wierdo
Gwyddno a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
Gwranda, met:

[b]Y siawns o fywyd yn bod ar y blaned yma:


1,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siwns o pob un o dy gyn deidiau yn cael nwci a'i gilydd ar yr amser cywir:

15, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

Y siawns o pob un o'r sberms na fod yr un cywir:

110, 000, 000, 000, 000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000,000 i 1.

MAE'R SIAWNS FOD TI YN BODOLI YN Y LLE CYNTAF YR UN SIAWNS A DYN YN CURO'R LOTERI DEG BILIWN O WEITHIAU YN OLYNOL.

A ti'n cwyno fod bywyd ddim yn deg? :crechwen:


Yn fathemategol (a rwy'n gwybod fod hyn yn iawn achos clywais i fe ar Radio 4), er mwyn i unrhyw un ohonom ni fod yma mae nifer y bobl y bydde'n rhaid iddyn nhw i gyd gael rhyw er mwyn ein cenhedlu ni yn fwy na cyfanswm yr holl bobl sy wedi byw erioed, felly yn fathemategol mae'n amhosibl i'r un ohonon ni fod yma! meddyliwch am hynny dros eich corn flakes :winc:


ia ond ma bobl yn cal rhyw mwy nag unwaith yn ysdod eu bywydau sdi...dim jesd er mwyn cael plant

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 9:04 pm
gan Macsen
Wierdo a ddywedodd:ia ond ma bobl yn cal rhyw mwy nag unwaith yn ysdod eu bywydau sdi...dim jesd er mwyn cael plant


Ydi?! Damia, pam dw i wedi bod yn gwastraffu f'amser fannyn...? :?

PostioPostiwyd: Sul 09 Mai 2004 9:23 pm
gan Wierdo
sori, dwi di agor dy lygid di i'r byd mawr drwg tu allan wan do. Na phoener, maen ddigon hawdd cloi dy hun yn dy fyd bach dy hun, dwi wedi

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 10:18 pm
gan calciwladur
Duw, Duw, os oes rai ti ddod a crefydd mewn i'r peth, waeth ti heb 'li!

PostioPostiwyd: Iau 28 Gor 2005 11:51 pm
gan Hen Rech Flin
Ydi aelodaeth o Griw Duw dal yn agored?

Mi ddanfonais gais i ymuno peth amser yn ôl - ond nid wyf eto wedi derbyn ymateb cadarnhaol na nacaol i'r cais. :(

Mae'r syniad o burdan - dim yn gwybod os wyt ti mewn neu allan - yn wrthun i'r traddodiad Cristionogol Cymraeg - gai ateb y naill fordd neu'r llall gan y cymedrolwr plîs?