Tudalen 2 o 4

Re: Ymunwch a Criw Duw!

PostioPostiwyd: Gwe 29 Gor 2005 9:20 am
gan Mr Gasyth
Gwyddno a ddywedodd:Yn fathemategol (a rwy'n gwybod fod hyn yn iawn achos clywais i fe ar Radio 4), er mwyn i unrhyw un ohonom ni fod yma mae nifer y bobl y bydde'n rhaid iddyn nhw i gyd gael rhyw er mwyn ein cenhedlu ni yn fwy na cyfanswm yr holl bobl sy wedi byw erioed, felly yn fathemategol mae'n amhosibl i'r un ohonon ni fod yma! meddyliwch am hynny dros eich corn flakes :winc:


Digon gwir, ond y cwbl ma'n olygu ydi fod llawer o bobl yn ymddangos yn dy goeden deulu di fwy nag unwaith.

Re: Ymunwch a Criw Duw!

PostioPostiwyd: Sul 31 Gor 2005 3:59 am
gan Hen Rech Flin
Mr Gasyth a ddywedodd:Digon gwir, ond y cwbl ma'n olygu ydi fod llawer o bobl yn ymddangos yn dy goeden deulu di fwy nag unwaith.


Canghennau ar goeden deuluol sydd gan Sais. Blodau mewn Gardd achau sydd gan Gymro!

Gyda llaw os oes gan unrhyw un eisiau gwybod pa flodau (neu chwyn) sydd ganddo yn ei ardd achau o gyfrifiadau Cymru a Lloegr o 1861 i 1901 y mae gennyf fynediad i fynegeion i'r cyfan ac yr wyf yn fwy na bodlon eu hymchwilio ar gyfer aelodau'r Maes.

Rhag mynd a'r edefyn yma ar gyfeiliorn yr wyf wedi cychwyn edefyn newydd i'r sawl sydd am ymateb i'r cynnig fama:

viewtopic.php?p=210069#210069

PostioPostiwyd: Sul 31 Gor 2005 8:31 am
gan -Orion yr Heliwr-
Oes modd trafod y ffordd y mae astroffiseg yn gwrthwynebu neu gwrthddweud pethau crefyddol yn y cylch yma?

PostioPostiwyd: Sad 03 Medi 2005 10:35 am
gan dawncyfarwydd
Dydi o ddim, ond dyna sy'n mynd ymlaen yna'r rhan fwya o'r amser.

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 9:00 pm
gan rooney
Geith y ffwndamentalwr yma ymuno a'r criw? (mae Criw Duw yn derm mor corny, gyda llaw!)

PostioPostiwyd: Sad 23 Meh 2007 9:36 am
gan Manon
O'n i methu cysgu noson o blaen achos nesh i actually dallt. Duw Cariad Yw. Mindblowing de?

Oes raid imi weithio yn y Gorlan 'wan? :winc:

PostioPostiwyd: Mer 27 Meh 2007 9:29 am
gan sian
Manon a ddywedodd:O'n i methu cysgu noson o blaen achos nesh i actually dallt. Duw Cariad Yw. Mindblowing de?


Mae e'n hollol amêsing! Diolch am fy atgoffa i - mae peryg i ni golli golwg ar hynny ynghanol yr holl fanion - trefnu picnics, gofalu nad yw'r capel yn rhy oer nac yn rhy boeth etc

PostioPostiwyd: Mer 27 Meh 2007 9:51 am
gan Macsen
O'n i methu cysgu noson o blaen achos nesh i actually dallt helfyd. Mae cariad yn cael ei achosi gan lefelau uchel o oxytocin and vasopressin yn y corff. Mindblowing de?

Ok dyw e ddim cweit mor rhamantaidd a'r syniad o Dduw! ;)

PostioPostiwyd: Mer 27 Meh 2007 10:49 am
gan Manon
Macsen a ddywedodd:O'n i methu cysgu noson o blaen achos nesh i actually dallt helfyd. Mae cariad yn cael ei achosi gan lefelau uchel o oxytocin and vasopressin yn y corff. Mindblowing de?

Ok dyw e ddim cweit mor rhamantaidd a'r syniad o Dduw! ;)


Nadi, ond felly mae Duw yn cael ei achosi gan lefelau uchel o oxytocin a vasopressin yn y corff! Pa mor cwl 'di hynna? 'Dwi ddim yn mynd i'r capel, 'dwi ddim yn cyfri fy hun yn grefyddol, ond ia 'fyd, Duw Cariad Yw! Mae o'n ace!
:D

PostioPostiwyd: Mer 27 Meh 2007 11:41 am
gan Llefenni
Aye - ondi wastad yn selio mywyd ysbrydol (hynny ac ydi o) ar y ffaith modi'n teimlo cariad massif at fy nheulu a mhartner, a lefelau o'r un peth at fy ffrindiau - a taw dyna'r grym "ysbrydol" sy' yn y byd... mae o'n neud mwy o sens yn fy mhen, wir :D

Yn sylfaenol - dim Duw mawr yn yr awyr, jyst llwythi o gariad ar y ddaear rhyngtho ni yn neud bywyd yn werth ei fyw. Innit.

Isit?!

:?