Macsen a ddywedodd:Hmmm... pam bod cylch RET yn un caeedig?
Mae'n debyg fod e wedi cam-ddeall beth yw'r gwanhaniaeth rhwng "agored" a "caeedig".
RET, does dim rhaid i ti weud y cylch yn gaeedig er mwyn stopio pobl rhag ymuno. Hyd yn oed gyda chylchau agored mae rhaid i'r cymedrolwr dderbyn pob unigolyn sydd am ymuno. (Mewn geiriau eraill, does dim modd i Gwion ymuno â dy gylch oni bai dy fod di'n rhoi caniatâd iddo fe, er enghraifft.) Mae'n llawer haws i ddefnyddio'r rhyngwyneb cylchau i reolu dy gylch, fel mae Macsen yn dweud.
Yr unig reswm i ddefnyddio cylch caeedig yw os wyt ti'n meddwl bod digon o aelodau 'da ti yn barod. Falle bod hynny yn wir.
Mae math arall o gylch, sef cylch cuddiedig, sy ddim yn dangos yn y rhestr cylchau. Dyna'r fath o gylch dylet ti ddefnyddio os ti wir am gadw'r peth i grwp dethol, gwahoddiadau yn unig. Does neb arall wedi gofyn i ymuno â'r grwp "Y We Marillion" achos taw dim ond fi ac Aran sy'n gwybod amdano.
Damo.
Rhaid i fi eich lladd chi i gyd nawr.
Sori Aran