Cylchau preifat RET a'r Larseniaid

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Postiogan nicdafis » Llun 10 Mai 2004 8:48 pm

RET79 a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Dileu negeseuon a'i cicio nhw 'mas, a torri edefyn yn ddau, gwneud nhwn sticky, cloi nhw, AYYB. Ar ochor dde gwaelod y dudalen clicia ar 'cymeradoli'r seiad hwn'.


dwi ddim yn gweld hwn?


:wps: sori, arna i mae'r bai. Dylai fod yn iawn nawr. A Gwion hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 10 Mai 2004 11:05 pm

Hmmm... pam bod cylch RET yn un caeedig? Dwyt ti wir ddim am i neb arall ymuno? Mae clicio ar focs yn lot haws nag ymateb i negeseuon preifat (coelia fi, mi ath hynna'n ddiflas iawn ar ol wythnos o gymeradoli Criw Duw).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dr Gwion Larsen » Llun 10 Mai 2004 11:07 pm

Am bo diom isho mwy ymuno! dwi heb gael mynediad, dwin meddwl mai di anghofio mae o ddo. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan nicdafis » Maw 11 Mai 2004 7:08 am

Macsen a ddywedodd:Hmmm... pam bod cylch RET yn un caeedig?


Mae'n debyg fod e wedi cam-ddeall beth yw'r gwanhaniaeth rhwng "agored" a "caeedig".

RET, does dim rhaid i ti weud y cylch yn gaeedig er mwyn stopio pobl rhag ymuno. Hyd yn oed gyda chylchau agored mae rhaid i'r cymedrolwr dderbyn pob unigolyn sydd am ymuno. (Mewn geiriau eraill, does dim modd i Gwion ymuno â dy gylch oni bai dy fod di'n rhoi caniatâd iddo fe, er enghraifft.) Mae'n llawer haws i ddefnyddio'r rhyngwyneb cylchau i reolu dy gylch, fel mae Macsen yn dweud.

Yr unig reswm i ddefnyddio cylch caeedig yw os wyt ti'n meddwl bod digon o aelodau 'da ti yn barod. Falle bod hynny yn wir.

Mae math arall o gylch, sef cylch cuddiedig, sy ddim yn dangos yn y rhestr cylchau. Dyna'r fath o gylch dylet ti ddefnyddio os ti wir am gadw'r peth i grwp dethol, gwahoddiadau yn unig. Does neb arall wedi gofyn i ymuno â'r grwp "Y We Marillion" achos taw dim ond fi ac Aran sy'n gwybod amdano.

Damo.

Rhaid i fi eich lladd chi i gyd nawr.

Sori Aran :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Maw 11 Mai 2004 10:51 am

Nic a ddywedodd:Does neb arall wedi gofyn i ymuno â'r grwp "Y We Marillion" achos taw dim ond fi ac Aran sy'n gwybod amdano.


Tebyg bod yna ganodd o'r grwpiau bach 'ma yn mynd ymlaen tu ol i'r lleni... Seiad 51, lle mae nhw'n cadw'r holl ddogfennau i wneud a aliens a'r moon landing sets?

O ddiddordeb, ydi y We Marillion rywbeth iw wneud ar Sillmarillion?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Machlud Jones » Maw 11 Mai 2004 11:41 am

RET79 a ddywedodd:- parch os gwelwch yn dda. Dim ymosodiadau personol e.e. ti'n ddwl, ti'n dwp

Gallai lot o bobl ar y maes ddwyn hyn i gof, yn enwedig y rhai sy'n ceisio rhoi'r argraff eu bod yn PC ac eangfrydig a wedyn yn gyrru neges efo ond un gair fel TWAT.
Machlud Jones
 

Postiogan Aran » Maw 11 Mai 2004 2:12 pm

nicdafis a ddywedodd:Does neb arall wedi gofyn i ymuno â'r grwp "Y We Marillion" achos taw dim ond fi ac Aran sy'n gwybod amdano.

Damo.

Rhaid i fi eich lladd chi i gyd nawr.

Sori Aran :wps:


hei, paid ag ymddiheurio wrtha i - maen nhw gyd yn haeddu cael eu lladd am fod mor ddi-chwaeth beth bynnag... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan RET79 » Maw 11 Mai 2004 6:53 pm

Nid yw cylch trafod RET yn gaeedig bellach. Diolch am y cyngor macsen.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Al » Gwe 06 Mai 2005 6:46 pm

oes bosib wneud y cylch hwn yn cuddiedig i'r rhai sydd dim yn aelod?? ac y rhynpeth i cylch cerddoriaeth, dwin mynd yn conffused gyda'r holl cylchau ma :?
Al
 

Nôl

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron