gan RET79 » Llun 10 Mai 2004 6:56 pm
Gellwch ymuno a'r cylch trafod trwy wahoddiad neu wrth ofyn yn neis ar neges breifat.
Rheolau cylch trafod RET:
- dim negeseuon hir. 2 neu 3 paragraff cryno ar y mwyaf plis.
- dim edfynnau hir. Beth am anelu i ddod a'r drafodaeth i'w ben mewn 4 tudalen ar y mwyaf?
- parch os gwelwch yn dda. Dim ymosodiadau personol e.e. ti'n ddwl, ti'n dwp
- ymosodiadau ad hominem ddim yn dderbyniol, ymosodwch ar y ddadl ddim y person plis
- dim tarfu ar edefyn e.e. cwestiynu pam fod y pwnc yn cael ei drafod, neu dechrau dadl cwbl newydd ar bwrpas. Os nad yw chi'n hoffi/diddordebu yn y pwnc, peidiwch a cyfrannu, gadewch eraill i drafod.
- meddyliwch cyn cynnig ystadegau/ffigyrau. Triwch ffeindio ffynhonell o'r we cyn cynnig ffigyrau/ffeithiau
- pan yn cynnig linc, rhowch y linc a dyfyniad byr plis
- peidiwch a mynd ar tangents. Os oes rhaid i chi wneud hyn, dechreuwch edefyn newydd.
- dim postio lluniau ar negeseuon
- dim cywiro gwallau iaith, gwnewch hynna ar neges breifat plis
Fe wnaf ychwanegu mwy o reolau os bydda i'n ffeindio fod y rheolau yma ddim yn llwyddo i stopio'r drafodaeth rhag cael ei tanseilio
RET79