Wel mae'r cylch trafod newydd ddechrau, falle y gwneith gymryd ychydig o amser i bethau setlo lawr. Ar hyn o bryd dwi'n meddwl fod pobl yn bod yn eitha gofalus fod nhw ddim yn cael ban! Ddim y bwriad yw cadw pobl yn ddistaw ond i gael trafod call hefo mwy o barch a llai o ymosodiadau ad hominem a nonsens plentynaidd.
Nic: oes posib cael mwy nac un cymedrolwr? Dwi ddim yn ymweld a'r maes yn ystod oriau gwaith fel arfer (heblaw am y mis nesaf ma gan mod i'n gweithio cyfnod notice) felly buaswn yn hoffi cael help eraill i gymedroli'r cylch? Hefyd, fe fuaswn i'n hoffi holi barn a cael sel bendith y ar y rheolau gan y rheiny sydd a bwriad defnyddio'r gylch. Fe wnes i sgwennu rhai neithiwr o dop fy mhen ond buaswn yn gwerthfawrogi help llaw eraill i wneud yn siwr fod y rheolau yn in helpu i gyrraedd y nod heb i bobl deimlo'n rhy rwystredig. Os yw hi'n iawn i gael llond llaw o gymedrolwyr yna rhowch wybod os oes gennych ddiddordeb bod yn gymedrolwr... a pham!
Dwi'n ddigon hapus hefyd i enw'r gylch newid i fod yn 'Gylch Trafod' heb y 'RET'.
Falle yn y tymor hir gall y cylch hwn fod yn gylch i drafod pynciau sydd ddim yn bynciau sy'n deillio o'r newyddion heddiw. O bosib fod y seiat gwleidyddiaeth yn fwy addas i drafod beth mae Tony Blair wedi ei ddweud heddiw tra mae y cylch trafod yn fwy addas i drafod pethau fel 'Ewrop - gwlad neu gyfandir'?
Dwi'n gwahodd syniadau. Diolch.